Newyddion S4C

'Rhwystredigaeth' y diwydiant twristiaeth wedi cyhoeddiad teithio rhyngwladol

25/06/2021
NS4C

Mae rhai cyrff o fewn y diwydiant teithio a thwristiaeth wedi lleisio eu rhwystredigaeth yn dilyn cyhoeddiad y llywodraeth am newid i'r system 'oleuadau traffig' o deithio rhyngwladol.

Mewn datganiad ddydd Iau, cyhoeddodd Llywodraethau Cymru a'r DU gyfres o newidiadau ar gyfer teithio rhyngwladol.

Fe fydd Ynysoedd Baleares Sbaen ymhlith y lleoliadau sy'n symud i restr werdd teithio rhyngwladol am 4 o'r gloch fore Mercher, 30 Mehefin.

Ond mae rhai cyrff y diwydiant twristiaeth wedi dweud eu bod yn "siomedig" gyda'r llacio cyfyngedig ar deithio. 

Dywedodd Karen Dee, Prif Weithredwr o Gymdeithas Rheoli Meysydd Awyr, fod camau'r llywodraethau'n "rhy ofalus" a gallai hyn gael "effaith ariannol" ar y sector. 

"Mae unrhyw estyniad ar y rhestr werdd yn cael ei chroesawu," ychwanegodd.

Image
NS4C
Mae rhai cyrff y diwydiant twristiaeth wedi dweud eu bod yn "siomedig" gyda'r llacio cyfyngedig ar deithio.

"Ond mae rhaid i ni fod yn realistig. Nid hyn yw'r dechreuad arwyddocaol roedd y sector hedfan ei eisiau er mwyn adfer o'r pandemig."

Dywedodd prif gyfarwyddwr polisi Ffederasiwn Diwydiant Busnes, Matthew Fell: "Er yn cael ei groesawu, ni fydd y llacio cyfyngiedig yma'n ddigon i achub tymor yr haf i'r sector teithio rhyngwladol.

"Dylai'r broses brechu ym Mhrydain olygu ein bod ni mewn sefyllfa i allu bod ar y blaen gyda theithio rhyngwladol diogel."

Caiff y rhestr oleuadau traffig ei hadolygu bob tair wythnos i adlewyrchu lledaeniad presennol Covid-19 yn y gwledydd dan sylw.

Image
CC
Barbados - ymhlith y lleoliadau sy'n symud i restr werdd teithio rhyngwladol am 4 o'r gloch fore Mercher, 30 Mehefin. [Llun: scaturchio]

Daeth cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn dilyn diweddariad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Rydym yn ailddechrau teithio rhyngwladol. Ond nid yw’r pandemig ar ben, a diogelu iechyd y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth o hyd.

"Rydym yn cynghori’n gryf o hyd na ddylai pobl deithio dramor oni bai bod hynny’n hanfodol, a hynny oherwydd y risg o ddal y coronafeirws, yn enwedig amrywiolion newydd sy’n peri pryder".

Dyma'r rhestr lawn o wledydd fydd ar y rhestr werdd:

  • Anguilla
  • Antigua a Barbuda
  • Ynysoedd Baleares (Ibiza, Menorca, Maiorca a Formentera)
  • Barbados
  • Bermuda
  • Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
  • Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
  • Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
  • Ynysoedd Cayman
  • Dominica
  • Grenada
  • Madeira
  • Malta Montserrat
  • Pitcairn
  • Henderson
  • Ynysoedd Ducie ac Oeno
  • Ynysoedd Turks a Caicos

Mae chwe gwlad wedi eu symud i'r rhestr goch hefyd, gyda'r Weriniaeth Ddominicaidd ​, Eritrea​, Haiti​, Mongolia​, Tunisia ​ac Uganda yn symud i'r rhestr honno pan ddaw'r newidiadau i rym.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.