Newyddion S4C

Dim digon o adnoddau i blant ag anghenion arbennig meddai staff ysgolion

04/04/2024
Ysgol

Mae'r mwyafrif o staff ysgolion yn dweud nad oes digon o adnoddau ar gael ar gyfer plant sydd ag anghenion addysgiadol arbennig neu anableddau.

Mewn arolwg o dros 8,000 o athrawon a staff ategol yng Nghymru a Lloegr, dywedodd 41% nad oedden nhw'n gallu cael cwnselwyr neu arbenigwyr iechyd galwedigaethol i gefnogi disgyblion.

Dywedodd un ymhob tri o'r rhai a holwyd nad oedd tîm ymddygiad arbenigol ar gael i helpu disgyblion. Doedd 28 y cant ddim yn cael cymorth therapydd lleferydd, a 25 y cant yn dweud nad oedd seicolegydd addysg ar gael.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i ddatblygu sgiliau’r gweithlu addysg".

Cafodd yr arolwg ei gynnal gan undeb athrawon yr NEU, sy'n cynnal eu cynhadledd flynyddol yn Bournemouth yr wythnos yma. Mae cynnig gerbron y gynhadledd ddydd Iau yn galw am gynyddu'r cyllid ar gyfer disgyblion ag anghenion arbennig.

Mae'n rhybuddio bod y sefyllfa "yn ddifrifol" a bod pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael "eu methu" gan y system.

Roedd nifer wnaeth ymateb i'r arolwg yn dweud bod y diffyg cyllid i blant ag anghenion arbennig yn cael effaith ddifrifol ar gyllidebau ysgolion yn gyffredinol.

'Rhy hir'

Dywedodd Daniel Kebede, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb: "Mae'n warth bod Llywodraeth [y DU] wedi gwneud cyn lleied i helpu ysgolion ac awdurdodau lleol yng ngwyneb yr angen cynyddol.

"Mae'r argyfwng mewn cyllido anghenion arbennig wedi mynd ymlaen yn llawer rhy hir. Mae'n pwyso'n drwm ar ysgolion sydd eisiau helpu, ond sydd wedi eu gwasgu i'r eithaf. Rydym yn gweld plant yn treulio gormod o'u taith drwy'r system ysgolion heb y gefnogaeth mae nhw ei angen."

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Addysg y DU: "Rydym ni eisiau i bob plentyn gael y cyfle i wireddu ei botensial, a dyna pam rydym yn cynyddu'r  cyllid i bobl ifanc ag anghenion cymhleth o dros £10.5 biliwn y flwyddyn nesaf - cynnydd o 60% mewn pum mlynedd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Er mai awdurdodau lleol a byrddau iechyd sy’n gyfrifol am gynllunio’r gweithlu ar gyfer gwasanaethau anghenion dysgu ychwanegol arbenigol lleol, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau’r gweithlu addysg, i ddarparu cymorth effeithiol yn yr ystafell ddosbarth fel bod pob dysgwr yn cael mynediad i safon uchel o addysg a chyrraedd eu llawn botensial.

“Mae cyllid i gefnogi gweithrediad y system Anghenion Dysgu Ychwanegol yn caniatáu hyfforddiant proffesiynol i athrawon arbenigol, ac rydym yn buddsoddi dros £2.6 miliwn dros dair blynedd tan 2025 i hyfforddi seicolegwyr addysg newydd yng Nghymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.