Cadeirydd cwmni ceir Gravells Cydweli wedi marw yn 82 oed
Mae David Gravell, y dyn busnes a chadeirydd cwmni ceir Gravells yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin, wedi marw’n 82 oed.
Cadarnhaodd cwmni Gravells iddo “farw’n heddychlon” nos Lun.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: "Rydyn ni'n drist iawn i gyhoeddi bod ein Cadeirydd, David Gravell BEM, wedi marw'n heddychlon am 23.00 nos Lun, 1 Ebrill, 2024.
"Roedd David yn byw ag Alzheimers am gyfnod o 12 mlynedd ond roedd y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn iddo.
"Cafodd David fywyd hyfryd. Roedd yn mwynhau'r garej gan gyfarfod nifer o bobl, gwerthu ceir, rhannu straeon a chefnogi’r iaith Gymraeg, bywyd, diwylliant a'r capel.
“Bydd colled ar ei ôl ond mi fyddwn ni’n yn cofio'r hwyl a'r chwerthin. Cysga'n dawel DG."
Roedd David Gravell yn gefnogwr brwd o eisteddfodau Cymru, gyda'r cwmni yn noddi nifer fawr o ddigwyddiadau diwylliannol.
Cafodd cwmni Gravells ei sefydlu yng Nghydweli yn 1932 gan ei dad, Tom Gravell, ac roedd David Gravell yn gyfarwyddwr ar y cwmni am dros ddegawd, rhwng 2004 i 2017.
Roedd hefyd yn un o brif noddwyr clwb rygbi’r Scarlets, yn ogystal â chlwb rygbi Cydweli, lle roedd yn llywydd.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Clwb Rygbi Cydweli: “Yn anfon cydymdeimlad dwys at Ian, Jonathan, a Jayne ar golli eu tad, David Gravell, ein llywydd yn Nghlwb Rygbi Cydweli Mae'r teulu yn ein meddyliau.”