Arestio dyn 80 oed yn Heathrow ar ôl 27 mlynedd ar ffo
Mae dyn 80 oed wedi ei arestio ym maes awyr Heathrow wedi 27 mlynedd ar ffo ar ôl iddo gael ei gyhuddo o gam-drin plant, meddai’r heddlu.
Cafodd Richard Burrows ei arestio ddydd Iau ar ôl dychwelyd i’r DU o Wlad Thai, meddai llefarydd ar ran Heddlu Sir Gaer.
Roedd disgwyl iddo ymddangos o flaen Llys y Goron Caer ym mis Rhagfyr 1997 i wynebu achos llys am ddau achos o sodomiaeth ac 11 achos o ymosodiad anweddus.
Mae’r cyhuddiadau yn ymwneud â chamdriniaeth honedig rhwng 1969 a 1971 yn Sir Gaer a Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Eleanor Atkinson o Heddlu Sir Gaer: “Rydyn ni wedi bod yn benderfynol o ddod o hyd i Burrows am 27 mlynedd.
“Mae ei arestio’n nodi cam sylweddol ymlaen a sicrhau bod pawb yn yr achos yn cael cau pen y mwdwl ar yr achos.
“Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am y wybodaeth y maent wedi’i darparu dros y blynyddoedd wrth i ni chwilio am Burrows a gobeithio y bydd ei arestio yn cynnig rhywfaint o sicrwydd.
“Rwy’n gobeithio hefyd y bydd ei arestiad yn rhybudd i unrhyw un arall a ddrwgdybir – gan ddangos, ni waeth pa mor hir y byddwch yn cuddio, y byddwn yn dod o hyd i chi ac y byddwch yn cael eich arestio.”
Roedd yr ymdrechion i ddod o hyd i Burrows ers iddo ddiflannu wedi cynnwys apêl Crimewatch yn 1998.
Dywedodd Duncan Burrage, swyddog cyswllt rhyngwladol yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol (NCA) yng Ngwlad Thai: “Trwy ddefnyddio ein rhwydwaith rhyngwladol a gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn Heddlu Sir Gaer, rydym wedi llwyddo i ddod o hyd i rywun a oedden nhw’n chwilio amdano mewn cysylltiad â honiadau difrifol iawn.”