Apêl wedi i ddyn farw mewn gwrthdrawiad ger Maes Awyr Caerdydd
31/03/2024
Mae'r heddlu yn apelio am dystion wedi i feiciwr modur farw ar ôl gwrthdrawiad ffordd ger Maes Awyr Caerdydd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am 13:10 brynhawn dydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad dau gerbyd rhwng beic modur Yamaha a cherbyd Skoda ar ffordd y B4265.
Bu farw'r beiciwr modur 51 oed yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400103405.