Newyddion S4C

Dyn yn ymweld â bron i bob un gorsaf reilffordd yn y DU mewn chwe wythnos

31/03/2024
RHEILFFORDD

Dywedodd gweithiwr rheilffordd sydd wedi ymweld â bron bob un o’r 2,580 o orsafoedd trenau yn y DU mewn chwe wythnos fod ei her wedi mynd “yn dda iawn” ond ei fod yn “awchu” am ei wely ei hun wrth i’w daith ddod i ben.

Cychwynnodd Dave Jones, 34, o Three Bridges yng Ngorllewin Sussex ar ei daith ganol mis Chwefror ac, ar ôl cyrraedd cyfartaledd o 62 gorsaf y dydd, bydd yn cwblhau ei her ddydd Sul ar ôl codi mwy na £2,300 at elusen.

Dywedodd Mr Jones wrth asiantaeth newyddion PA y bu “ychydig o drafferthion oherwydd y tywydd” a oedd wedi arwain at orlifo mewn gorsafoedd a’i atal rhag ymweld â 14 gorsaf ar hyd y daith.

Mae Mr Jones,  sydd gyda diddordeb mawr mewn rheilffyrdd, wedi bod yn neidio allan o'r trenau ym mhob gorsaf i gamu ar y platfform a thynnu llun o bob arwydd gorsaf.

Mae hefyd wedi cysgu dros nos ar rai trenau ac wedi aros mewn gwestai ond, ychwanegodd: “Bu cwpl o weithiau lle rydw i wedi defnyddio gwasanaethau arferol sy’n rhedeg trwy gydol y nos ac rydw i wedi bod yn cael cymaint o gwsg â dwi'n gallu."

Gwyliau blynyddol

Fe dreuliodd bythefnos gyntaf ei her tra’n dal i weithio, cyn mynd ar wyliau blynyddol i gwblhau’r rhan fwyaf o’r daith.

Ond nid oedd y daith yn llyfn iddo bob tro meddai: “Mae glaw trwm wedi bod felly mae rhai o’r gorsafoedd wedi gorlifo.

“Mae yna gwpl o weithiau rydw i wedi gallu cael gwasanaeth bws ac mae'r gyrrwr wedi bod yn eithaf da gan adael i mi ddod oddi ar y bws ger yr orsaf, cael llun cyflym a mynd yn ôl ymlaen.”

Ychwanegodd: “Weithiau dydw i ddim wedi gallu dod oddi ar y trên pan mae hi wedi bod yn gynnar yn y bore yn ystod amser cymudo a phan mae’r plant ysgol wedi dod ymlaen, mae mor orlawn fel na allwch chi symud.”

Mae'r ymateb i'w her wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, meddai.

“Mae llawer o fy ffrindiau'n meddwl ei fod yn wirion beth rydw i'n ei wneud, oherwydd y dyddiau hir, dechrau'n gynnar, gorffen yn hwyr, ond mae llawer ohonyn nhw'n gefnogol iawn ac maen nhw wedi'u plesio gan faint o gynllunio dwi' wedi gwneud," meddai.

Llun: PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.