Newyddion S4C

Louis Rees-Zammit yn ymuno â phencampwyr yr NFL

29/03/2024
Louis Rees-Zammit

Mae cyn-chwaraewr Cymru Louis Rees-Zammit wedi arwyddo gyda phencampwyr yr NFL, y Kansas City Chiefs.

Cyhoeddodd Rees-Zammit, 23 oed, ym mis Ionawr ei fod yn gadael rygbi er mwyn ceisio ymuno â'r NFL, sef y gynghrair bêl-droed Americanaidd.

Mae wedi chwarae 32 gwaith dros Gymru.

Fe fydd Rees-Zammit yn ymuno gyda rhai o fawrion mwyaf y gamp gyda'i dîm newydd, gan gynnwys Travis Kelce a Patrick Mahomes.

Mae'r Chiefs wedi arwyddo'r Cymro ar gytundeb tair blynedd. Fe fydd yn chwarae yn y safle running back.

Y gred yw y bydd Rees-Zammit yn ymuno gyda charfan estynedig y Chiefs wrth iddyn nhw ail-ymgynnull yn yr haf cyn y bydd y prif hyfforddwr Andy Reid yn lleihau'r nifer i 53 chwaraewr ar gyfer tymor yr NFL.

Ymunodd â rhaglen Llwybr Chwaraewr Rhyngwladol (IPP) ym mis Ionawr er mwyn ceisio ennill lle ar restr yr NFL yn yr Unol Daleithiau yn 2024. 

Mae Llwybr Chwaraewr Rhyngwladol yr NFL yn rhoi'r cyfle i athletwyr ennill eu lle ar restr yr NFL.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.