Newyddion S4C

Cyfres deledu gyntaf o'i bath yn dilyn y Gwasanaeth Prawf

29/03/2024
Ar Brawf

Bydd cyfres deledu newydd yn dangos gwaith y Gwasanaeth Prawf yn y gymuned am y tro cyntaf yng Nghymru a Lloegr.

Bydd pob pennod yn dilyn dau droseddwr sydd yn cael eu rheoli yn y gymuned gan Swyddogion Prawf Gwynedd a Môn.

Gwaith y tîm o Swyddogion Prawf yw gweithio yn agos gyda throseddwyr er mwyn ceisio eu hatal rhag troseddu eto.

Yn 2023 roedd 10,000 o droseddwyr dan ofal y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru. Mae 30% ohonyn nhw yn debygol o droseddu eto.

Mae Elin Gaffey yn un o’r Swyddogion Prawf sy’n cymryd rhan yn y gyfres.

“Mae’r mwyafrif o’n gwaith ni fel Swyddogion Prawf yn digwydd y tu ôl i’r llenni ac yn aml yn gallu cael ei gamddeall gan y cyhoedd.

“Dwi’n meddwl bydd y gyfres yma yn helpu pobl i ddeall y penderfyniadau cymhleth y mae’n rhaid i ni eu gwneud bob dydd er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel.

“Weithiau mae ein gwaith ni’n cynnwys gweithio gyda phobl o gefndiroedd cymhleth sy’n ei gwneud hi’n heriol iawn, ond mae eu gwylio’n llwyddo yn gwneud y swydd yn un gwerth chweil.”

'Anodd ond positif'

Gwenan yw un sydd yn ymddangos yn y gyfres.

Dywedodd fod bod dan ofal y Gwasanaeth Prawf yn anodd, ond yn brofiad sydd wedi helpu gyda'i hiechyd meddwl.

“Mae bod dan ofal y Gwasanaeth Prawf am bron i dair blynedd yn olynol wedi bod yn anodd ond mae o hefyd wedi bod yn brofiad da a phositif i fi.

“Oni’n lwcus efo Swyddogion Prawf caredig, oedd yn gallu gweld heibio’r drwg nes i a gweld y da ynddo i.

“Roeddwn i’n cael trafferth mawr gyda fy iechyd meddwl a dibyniaeth, ac mi wnaeth Elin helpu fi efo hynny. Alla’i ddim diolch digon iddi am bob dim mae hi wedi helpu fi gyda. Mae hi hyd yn oed wedi helpu fi efo cael tŷ – dwi rŵan ar y rhestr yn aros i symud.”

Bydd y gyfres chwe phennod o Ar Brawf yn cychwyn ar S4C ar nos Fawrth 2 Ebrill am 21:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.