Louis Rees-Zammit i ymuno â phencampwyr yr NFL, yn ôl adroddiadau
Louis Rees-Zammit i ymuno â phencampwyr yr NFL, yn ôl adroddiadau
Fe fydd Louis Rees-Zammit yn ymuno â phencampwyr yr NFL yn ôl adroddiadau.
Cyhoeddodd Rees-Zammit, 23 oed, ym mis Ionawr ei fod yn gadael rygbi er mwyn ceisio ymuno â'r NFL, sef y gynghrair bêl-droed Americanaidd.
Mae wedi chwarae 32 gwaith dros Gymru.
Yn ôl adroddiadau yn America, fe fydd cyn-chwaraewr Cymru yn arwyddo gyda chlwb y Kansas City Chiefs yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Y Kansas City Chiefs oedd enillwyr y Super Bowl yn gynharach eleni, ac mae ganddyn nhw rai o sêr mwyaf y gamp, gan gynnwys Travis Kelce a Patrick Mahomes.
Roedd Rees-Zammit eisoes wedi ymweld â chlybiau y Cleveland Browns a'r New York Jets yr wythnos hon, yn ogystal â'r Denver Broncos.
Inline Tweet: https://twitter.com/NFLUK/status/1772277534706557229?s=20
Y gred yw y bydd Rees-Zammit yn ymuno gyda charfan estynedig y Chiefs wrth iddyn nhw ail-ymgynnull yn yr haf cyn y bydd y prif hyfforddwr Andy Reid yn lleihau'r nifer i 53 chwaraewr ar gyfer tymor yr NFL.