Newyddion S4C

Chwilio am bobl wedi i bont ddymchwel yn Baltimore America

27/03/2024

Chwilio am bobl wedi i bont ddymchwel yn Baltimore America

Yn fuan ar ôl gadael y porthladd yn oriau man y bore, trychineb.

Fe darodd y llong nwyddau fawr y bont gan arwain at hi'n plygu a rhan ohoni'n dymchwel i'r afon.

Wrth i'r wawr dorri, roedd maint y difrod yn amlwg.

"We're investigating what happened but we're quickly gathering details.

"The preliminary investigation points to an accident."

Hyd yma, mae dau o bobl wedi eu hachub ac mae'r chwilio yn parhau am o leiaf chwech o bobl.

Mae lle i gredu eu bod nhw'n gwneud gwaith i'r bont ar y pryd.

"Beth sydd yn unigryw i raddau i hwn ydy mae o beth sydd yn cael ei alw'n bont barhaus neu continuous bridge felly os yr un bont ydy o yr holl ffordd o un ochr i'r llall a tydy hynny ddim o hyd yn digwydd os oes yna un darn o'r bont yn methu neu'n cael ei ddifrodi mae'n cael effaith ar y bont i gyd a dyna pam 'dan ni wedi gweld y lluniau erchyll yma o beth sydd wedi digwydd."

Yn ôl adroddiadau, fe gollodd y llong bŵer ar ol gadael y porthladd yn Baltimore.

Ac fe wnaeth anfon neges argyfwng cyn y gwrthdrawiad.

"Personnel on board the ship were able to alert the Department of Transportation that they had lost control of their vessel.

"Local authorities were able to close the bridge to traffic before the bridge was struck which saved lives."

Y flaenoriaeth rwan yw ceisio achub pobl o afon rewllyd Patapsco.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.