Newyddion S4C

Cyffro a nerfau yn y brifddinas cyn i Gymru herio Gwlad Pwyl

27/03/2024

Cyffro a nerfau yn y brifddinas cyn i Gymru herio Gwlad Pwyl

Bwrlwm yn y brifddinas.

I'r cefnogwyr yma, llymaid i dawelu'r nerfau.

Am yr eildro mewn pump diwrnod, mae gan Gymru gêm dyngedfennol.

Mae carfan Rob Page o fewn buddugoliaeth at chwarae yn yr Euros am y trydydd tro o'r bron.

"Bach yn nerfus i fod yn onest. Mae'n gêm enfawr."

"Cymru'n mynd i ennill - mae'n rhaid fi weud hwnna."

"Peryg draw ac i mewn i extra time ond gobeithio ennill."

Gyda lle yn yr Almaen yn y fantol, rhaid cael canlyniad heno sy'n golygu y gallai fynd i amser ychwanegol a hyd yn oed ciciau o'r smotyn.

Os felly, pa mor barod fydd y Cymry?

"Os bydd e'n dod fi'n credu ni wedi bod yn ymarfer a pawb wedi bod yn ymarfer.

"Fel carfan, fi'n credu bod pawb yn barod os bydd e'n dod ato fe."

I'r teulu yma o Sir y Fflint sydd â pherthnasau yng Ngwlad Pwyl mae'n gêm sy'n golygu cymaint.

"Cymru. Dw i'n teimlo'n fwy Cymreig na Phwyleg.

"Ond dal, os 'sa Gwlad Pwyl yn mynd trwyddo 'sen i'n cefnogi nhw."

"Dw i'n teimlo'n ffodus bod ni methu colli heddiw rili.

"Pa bynnag dîm sy'n ennill bydd gynnon ni dîm i'w gefnogi.

"Dw i'n meddwl pan o'n i'n tyfu i fyny doedd Cymru ddim yn chwarae yn y cystadlaethau rhyngwladol felly o'n ni wastad yn cefnogi Gwlad Pwyl.

"Mae'n braf cael dau dîm i gefnogi."

Ddwy flynedd yn ôl fe gyrhaeddodd Gwlad Pwyl rownd 16 olaf Cwpan y Byd, ond ers hynny digon siomedig fu'r canlyniadau.

"Dydyn nhw'm cystal oddi cartref.

"Ddim yn yr ymgyrch, gollon nhw tair o bedair.

"Gollon nhw yn Moldova a dw i'n gwybod bod Cymru wedi gwneud hynna.

"O'n i'n rhan o'r tîm ddaru golli yn Moldova.

"Dach chi'n darllen ambell beth am garfan Gwlad Pwyl.

"Ydy'r ysbryd a'r teimlad bod nhw'n un uned yr un mor agos â charfan Cymru?

"Dw i'm yn meddwl ei fod o."

Galw am ddisgyblaeth, egni ac angerdd mae'r capten Ben Davies.

Rhinweddau a fydd gobeithio, yn ddigon i'w gweld yn camu ymlaen i'r Almaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.