Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Paratoadau Cymru cyn eu gêm agoriadol yn erbyn yr Alban

26/03/2024

Chwe Gwlad: Paratoadau Cymru cyn eu gêm agoriadol yn erbyn yr Alban

Cyfle i ymlacio ar ôl ymarfer a'r paratoadau bron ar ben cyn i Gymru groesawu eu cefndryd Celtaidd i Barc yr Arfau.

Yn anodd a phoenus, y gobaith yw y bydd eu sesiynau oddi ar y cae hefyd yn talu ffordd wrth i'r garfan ymarfer yn gyson mewn siambr arbennig sy'n ail greu amodau ymarfer ar uchder, neu high altitude.

Mae tîm Ioan Cunningham eisiau ailadrodd eu llwyddiant y llynedd.

"Mae e'n enfawr yn enwedig gyda'r gêm gyntaf sydd adref hefyd.

"Rhaid cael dechreuad da yn y Chwe Gwlad i roi momentwm i chi.

"Mae popeth ar y gêm hyn.

"Rhaid canolbwyntio ar ein strwythur a'r cynllun i gwblhau'r dasg dydd Sadwrn."

Yn y tîm fydd yn wynebu'r Alban, mae gwynebau newydd ymhlith yr olwyr.

Jenny Hesketh, cyn gapten tîm dan 20 Lloegr yn safle'r cefnwr a'r asgellwraig, Nel Metcalfe yn chwarae am y tro cynta yn y 6 Gwlad.

Tra bod un o sêr mwyaf Cymru, Jaz Joyce yn dychwelyd ar ôl bod gyda tîm saith bob ochr Prydain.

Mae 'na enwau cyfarwydd hefyd ymhlith y pac.

Mae disgwyl i Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones and Sisilia Tuipulotu chwarae rôl allweddol yn y rheng flaen.

Dyma fydd ail bencampwriaeth dan gapteiniaeth y canolwr Hannah Jones.

Wnaeth hi fy ngwahodd i am sgwrs cyn dechrau'r ymgyrch i'w gelataria y mae'n rhedeg yn Rhydaman gyda'i darpar-wr Dino.

"Croeso, mae'n neis i weld ti."

Hufen ia'n edrych yn arbennig, a yw'r merched wedi bod yma?

"Ie, wrth gwrs ond maen nhw'n hoffi mynd am goffi, dim hufen ia."

Dyma'r ail ymgyrch lle fyddi di'n arwain dy wlad. Pa mor arbennig yw hynny?

"Mae dal yn falch i fi a'm teulu a dw i'n edrych ymlaen.

"Dw i wedi dysgu llawer hefyd o'r merched a Ioan."

Mae tair gêm gartref eleni, felly yw'r disgwyliadau'n uwch?

"Ni 'di cael camp dda wythnos ddiwethaf.

"Mae lot o chwaraewyr newydd.

"Ni ddim yn siarad lot am y canlyniadau ond mae'n bwysig i gael y top tier yn WXV a'r Cwpan y Byd hefyd."

Faint yw proffil y gêm merched wedi cynyddu yn y chwe mis diwethaf?

"Ni'n gweld bod lot o crowds 'da ni yn y club game hefyd.

"Mae'n bwysig bod merched a bechgyn bach yn gweld bod e'n brofiad i chwarae i Gymru a bod e'n swydd.

"Mae'n rili bwysig."

Yfory bydd yr Alban yn teithio yma i Barc yr Arfau yn edrych am eu buddugoliaeth gyntaf nhw yn erbyn Cymru ers 2021.

Ar ôl gorffen yn drydydd y tymor diwethaf mae disgwyliadau ar Gymru i efelychu neu wella ar hynny eleni ac adeiladu ar eu perfformiadau nhw y llynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.