Newyddion S4C

Ffermwyr yn ymgynnull yn Llundain ar gyfer protest

protest ffermwyr san steffan

Mae ffermwyr wedi ymgynnull yn eu tractorau yn San Steffan nos Lun mewn protest yn erbyn "mewnforion bwyd is na'r safon, a labeli bwyd anonest."     

Grwpiau Save British Farming a Fairness for Farmers of Kent sydd wedi trefnu'r daith i Lundain gan yrru yn araf o amgylch San Steffan. 

Mae'r protestwyr yn codi pryderon am yr anawsterau sy'n wynebu'r diwydiant amaeth ar hyn o bryd. Ac maen nhw'n dadlau fod hynny yn peryglu diogelwch bwyd.

Maen nhw'n galw ar i'r cytundebau masnach presennol ddod i ben, gan ddadlau fod y drefn bresennol yn caniatáu i "fwyd o safon is" gael ei fewnforio, a bwyd yn ôl y protestwyr a fyddai'n "anghyfreithlon" yn y Deyrnas Unedig.  

Mae'r trefnwyr hefyd yn beirniadu'r drefn o labelu bwyd sy'n caniatau baner yr Undeb, pan nad yw'r cvnnyrch wedi ei fagu neu ei dyfu yn y Deyrnas Unedig.    

Ac maen nhw o'r farn fod y polisi amaeth newydd ar gyfer Lloegr, drwy dalu ffermwyr am gydymffurfio â mesurau amgylcheddol, er enghraifft creu cynefin ar gyfer byd natur, yn golygu fod tir ar gyfer cynhyrchu bwyd yn cael ei golli.

Daw'r brotest yn Lloegr wedi sawl un debyg yng Nghymru yn ystod y misoedd diwethaf. 

Teithiodd rhai miloedd o ffermwyr a'u teuluoedd i Fae Caerdydd ar 28 Chwefror gan ymgynnull y tu allan i'r Senedd. 

Mae ffermwyr Cymru yn anfodlon â Chynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi mwy o bwyslais ar ffermio sy’n llesol i’r amgylchedd, ac yn disodli’r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi cyfrannu dros £300m y flwyddyn i ffermydd Cymreig.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.