Newyddion S4C

'Gwenwynig': Problemau yng Ngwasanaethau Tân Cymru ‘wedi’u creu ers 10 mlynedd’

ITV Cymru 22/03/2024
Peiriant tan

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rai cythryblus i wasanaethau tân yng Nghymru.

Yn 2023, cafodd Fenella Morris KC ei phenodi i arwain ymchwiliad i’r diwylliant yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Roedd canfyddiadau ei hymchwiliad yn cynnwys manylion am ddiwylliant ble roedd aflonyddu rhywiol a bwlio yn cael ei oddef gan y gwasanaeth. 

Yn dilyn canfyddiadau’r ymchwiliad, oedd yn galw am newidiadau sylweddol i drawsnewid diwylliant y gwasanaeth, fe wnaeth y Prif Swyddog Tân, Huw Jakeaway, gyhoeddi ei fod yn ymddeol. 

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi fis Chwefror eu bod yn penodi pedwar comisiynydd i ‘drawsnewid’ y llu. Eu penderfyniad cyntaf oedd penodi Stuart Millington, y dirprwy bennaeth tân yng ngogledd Cymru, i gymryd yr awenau yn Ne Cymru.

Ond mae pryderon dros y penodiad wrth i honiadau o fwlio gan Mr Millington yn ystod ei gyfnod gyda gwasanaeth y goledd gael eu codi mewn tribiwnlys cyflogaeth fis Mai. Mae Mr Millington yn gwadu’r cyhuddiadau.

Image
Stuart Millington
Stuart Millington (Llun: ITV Cymru)


‘Diwylliant gwenwynig’ yng Ngwasanaeth y Gogledd 

Yn sgil y manylion "ysgytwol" oedd wedi'u cynnwys yn adroddiad Morris, fe wnaeth chwythwyr chwiban gysylltu ag ITV Cymru Wales, i ddweud bod yna "ddiwylliant gwenwynig" tebyg yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Roedden nhw hefyd wedi codi pryderon am secondiad Stuart Millington i Wasanaeth De Cymru. 

Bum wythnos yn ôl, fe wnaeth ITV Cymru Wales ddechrau ymchwilio i’r hyn oedd yn mynd ymlaen yn y gogledd, oedd wedi arwain at gyfanswm o 35 o dystion yn dweud eu bod nhw wedi profi rhywiaeth, brawychu a bwlio. 

Dywedodd un aelod o staff eu bod nhw wedi bod yn dyst uniongyrchol i “aflonyddu rhywiol ac ymosodiad corfforol, casineb tuag at fenywod, brawychu, bychanu, a chwynion am hiliaeth.”

Fe wnaethon nhw ddweud wrth ITV Cymru Wales nad oedd unrhyw beth wedi cael ei wneud, pan gafodd hyn ei adrodd.

Dywedodd aelod o staff arall fod rhai aelodau yn “ffynnu ar dactegau bwlio a brawychu,” gan ddweud: “Rwyf wedi bod yn dyst i fwlio, rydw i wedi profi bwlio. Rydw i hefyd wedi bod yn dyst i aflonyddu, a phrofi aflonyddu. Rydw i’n ei chael hi’n anodd iawn i siarad amdano.”

Fe wnaeth ITV Cymru gyflwyno’r honiadau hyn i’r gwasanaeth tân yng ngogledd Cymru, gan dderbyn ymateb ei fod yn “ymdrechu’n barhaus i gyflawni’r diwylliant gorau yn unol â’n gwerthoedd craidd.” 

Fe wnaeth barhau trwy ddweud: “Byddem bob amser yn annog staff i ddod ymlaen ag unrhyw bryderon ac rydym ni’n credu bod hi’n hollbwysig fod pobl yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.”

Mae sawl cais gan ITV Cymru Wales i gyfweld â’r prif swyddog tân, Dawn Docx wedi cael eu gwrthod dros y mis diwethaf.

Dywedodd bron pob chwythwr chwiban eu bod nhw eisiau adolygiad diwylliannol ehangach o’r tri gwasanaeth tân yng Nghymru.

Dywedodd un o’r tystion: “Bydden ni’n ciwio i godi llais petai yna fodd i wneud hynny yn ddiogel a gyda chefnogaeth trwy adolygiad diwylliannol.”

Adolygiad wedi’i gyhoeddi

Ar 11 Mawrth,  fe wnaeth dau o brif benaethiaid tân Cymru ymddangos gerbron un o bwyllgorau’r Senedd.

Cyn i’r pwyllgor ddechrau, roedd Hannah Blythyn - y Gweinidog Partneriaeth Cymdeithasol, sy’n gyfrifol am oruchwylio gwasanaethau tân - wedi rhyddhau datganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi adolygiad annibynnol i ddiwylliant Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Ms Blythyn: “Mae angen i’r cyhoedd fod yn dawel eu meddwl ynglŷn â’r diwylliant a’r arferion rheoli cysylltiedig yn ein gwasanaethau tân ac achub, ac mae angen i staff fod yn sicr bod ganddyn nhw fodd diogel ac effeithiol i rannu eu profiadau - da a drwg - o fewn ein sefydliad.” 

Image
Hannah Blythyn
Hannah Blythyn (Llun: ITV Cymru)

Mae cadeirydd pwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol y Senedd wedi bod yn ymchwilio i wasanaethau tân yn y wlad.

Fe wnaeth Jenny Rathbone AS groesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud: "Rwy'n falch iawn bod y gweinidog wedi cymryd camau cadarn, mae hyn wedi bod yn byrlymu ers o leiaf 10 mlynedd."

Dywedodd gwasanaethau’r gogledd, a chanolbarth a gorllewin Cymru eu bod yn croesawu'r adolygiadau, gan ddweud y bydden nhw'n "sicrhau asesiad cynhwysfawr a diduedd o'n cynnydd".

Cwestiynau yn parhau

Bydd achos tribiwnlys cyflogaeth yn parhau fis Mai i honiadau yn erbyn Mr Millington a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae'n gwadu'r honiadau, ac fe wnaeth ymddangos mewn tribiwnlys rhagbrofol ddechrau mis Mawrth.

Er gwaethaf ceisiadau ITV Cymru Wales am ragor o wybodaeth, nid yw’r comisiynwyr wnaeth gymryd lle Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi gallu dweud a oedden nhw’n ymwybodol o’r honiadau yn erbyn Mr Millington cyn ei benodi.

Ar ôl darganfod ei fod yn wynebu honiadau o fwlio, fe wnaeth Undeb Brigadau Tân De Cymru ymateb drwy bleidleisio o blaid pleidlais o ddiffyg hyder yn y pennaeth newydd.

Fe wnaeth Aelod y Senedd Plaid Cymru, Sioned Williams godi cwestiynau yn y Senedd ar 13 Mawrth, am ba mor addas oedd Mr Millington ar gyfer y rôl tra bod yr honiadau dal heb eu hateb, gan ofyn i Ms Blythyn a oedd hi'n fodlon â'r penodiad.

Nid oedd Ms Blythyn wedi ymateb i gwestiynau uniongyrchol Ms Williams am Mr Millington.

Dywedodd Jenny Rathbone ei bod hi a’r pwyllgor “wedi synnu gan ei benodiad ar ôl iddyn nhw sylweddoli rhai o’r honiadau yn ei erbyn, a thybed a gafodd y comisiynydd e gynghori’n briodol.” 

Fe wnaeth hi ychwanegu: “pan mae yna honiadau yn ei erbyn o hyd, nid yw’n teimlo ei bod yn trosglwyddo’r neges gywir.”

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae disgwyl i'r adolygiad o Wasanaeth Tân ac Achub y Gogledd, a Gwasanaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru gael ei gwblhau erbyn yr hydref eleni fan pellaf.

Rhwng nawr a hynny, bydd yn rhaid i'r gwasanaethau benodi person neu gorff annibynnol i gynnal yr ymchwiliadau i ddiwylliant y ddau wasanaeth.

Mae staff o’r ddau wasanaeth wedi dweud wrth ITV Cymru Wales eu bod am gael sicrwydd ynghylch telerau atgyfeirio’r adolygiad, a sut y caiff y penodiadau eu gwneud.

Cyn hynny, gallwn ddisgwyl i bwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol y Senedd gyhoeddi adroddiad ar lywodraethu gwasanaethau tân. 

Mae'r pwyllgor wedi bod yn clywed tystiolaeth ac mae disgwyl iddo gyflwyno ei ganfyddiadau cyn diwedd mis Ebrill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.