Newyddion S4C

Dyn wedi ei barlysu'n chwarae gwyddbwyll drwy rym ei ymennydd

21/03/2024
Neuralink

Mae dyn oedd wedi ei barlysu wedi cael ei ffilmio'n chwarae gwyddbwyll ar ôl derbyn mewnblaniad meicrosglodyn (microchip) gan un o gwmnïau Elon Musk

Fe gafodd Nolan Arbaugh, 29 oed, ei barlysu o’i ysgwyddau i lawr yn dilyn gwrthdrawiad dro yn ôl meddai, mewn fideo gafodd ei ffrydio’n fyw ar gyfrwng cymdeithasol Musk, sef X. 

Cafodd y fideo naw munud o hyd ei ffrydio gan gwmni Neuralink, gan ddangos llygoden cyfrifiadur Mr Arbaugh yn symud ar draws ei sgrin – ag yntau’n defnyddio ei feddyliau yn unig i alluogi’r symudiad.  

“Dwi’n caru chwarae gêm o wyddbwyll a dyma’r un o bethau rydych chi wedi galluogi fi i wneud. 

“Nid wyf wedi gallu gwneud llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf… ond nawr allai ‘neud popeth gyda fy ymennydd. 

“Fe allwch chi weld y llygoden yma’n symud o gwmpas y sgrin – dwi’n ‘neud hynny. Mae’n eithaf cŵl dydy?” 

Roedd Mr Arbaugh hefyd gallu atal cerddoriaeth rhag chwarae o’i declyn, a hynny hefyd heb iddo orfod symud yn gorfforol. 

Fe gafodd y gŵr y mewnblaniad gan Neuralink ym mis Ionawr gan ddweud ei bod yn llawdriniaeth “hynod o hawdd.” 

“Cefais fy rhyddhau o’r ysbyty'r diwrnod wedyn. Does gen i ddim namau gwybyddol o gwbl,” meddai Mr Arbaugh.

Roedd Mr Arbaugh yn ymddangos ochr yn ochr â pheiriannydd o gwmni Neuralink, ac mae'r fideo bellach wedi cael ei gwylio dros 10 miliwn o weithiau. 

Dywedodd Elon Musk eisoes taw bwriad y meicrosglodion oedd galluogi pobl anabl i “gyfathrebu’n cyflymach nag arwerthwr,” gan hefyd ddweud y byddai’r mewnblaniad gyda’r potensial i “drin” gordewdra, awtistiaeth, iselder a sgitsoffrenia. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.