Waspi: Iawndal yn ddyledus i fenywod wedi methiannau pensiwn medd ombwdsmon
Methodd yr Adran Gwaith a Phensiynau â chyfathrebu’n ddigonol newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod, ac mae iawndal yn ddyledus i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio, meddai’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
Mae’r ombwdsmon wedi gofyn i’r Senedd yn Llundain i ymyrryd a “gweithredu’n gyflym” i wneud yn siŵr bod cynllun iawndal yn cael ei sefydlu.
Hyd yn hyn, nid yw’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cydnabod ei methiannau, nac wedi unioni pethau chwaith, meddai’r ombwdsmon.
Daeth ymchwiliad yr ombwdsmon i'r casgliad y gallai methiant yr Adran Gwaith a Phensiynau i roi gwybod fod oedran pensiwn y wladwriaeth wedi newid fod wedi effeithio ar filoedd o fenywod.
Dywedodd prif weithredwr Swyddfa'r Ombwdsmon, Rebecca Hilsenrath: “Mae ombwdsmon cenedlaethol y DU wedi canfod methiannau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn yr achos hwn, ac wedi dyfarnu bod iawndal yn ddyledus i’r menywod sydd wedi eu heffeithio.
“Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi nodi’n glir y bydd yn gwrthod cydymffurfio. Mae hyn yn annerbyniol. Rhaid i'r adran wneud y peth iawn a rhaid ei dwyn i gyfrif am fethiant i wneud hynny.
“Ni ddylai achwynwyr orfod aros i weld a fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd camau i unioni ei methiannau."
Fe ddaw'r cyhoeddiad wedi i fenywod, oedd yn disgwyl ymddeol wedi iddyn nhw gyrraedd 60 oed, gael gwybod yn 2010 y byddai'n rhaid disgwyl yn hirach am eu pensiwn gwladol yn dilyn newidiadau i’r oedran ymddeol.
Daeth y newidiadau mewn ymdrech i sicrhau cydraddoldeb yn yr oedran ymddeol rhwng dynion a menywod, ac erbyn 2018, roedd yr oedran ymddeol ar gyfer menywod wedi cynyddu i 65 oed – yn unol â dynion.
Mae’r grŵp ymgyrchu Waspi (‘Women Against State Pension Inequality’) eisoes wedi dweud bod newidiadau o’r fath wedi achosi niwed i fenywod oedd yn disgwyl eu pensiwn yn gynt.
Yn ôl Waspi, cafodd miloedd o fenywod eu heffeithio’n ariannol gan y newidiadau gan nad oeddent wedi cael eu rhybuddio amdanynt o flaen llaw – a hynny wedi achosi tlodi i rai.
Fe ddaw adroddiad yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ddydd Iau yn dilyn blynyddoedd o waith ymgyrchu a heriau cyfreithiol gan Waspi.
Dywedodd aelodau Waspi eu bod yn disgwyl iawndal gan eu bod wedi wynebu heriau ariannol yn sgil y newidiadau di-rhybydd ar y pryd.
Fe allai Llywodraeth y DU gael ei gorfodi i dalu biliynau o bunnoedd mewn iawndal yn dilyn cyhoeddi yr adroddiad ddydd Iau.
Mae disgwyl i’r oedran ymddeol gynyddu eto ar gyfer dynion a menywod.
Bydd yr oedran ymddeol yn cynyddu o 66 oed i 67 oed erbyn 2028, ac yna i 68 oed yn y dyfodol.
Yn 2021,fe wnaeth adroddiad cychwynnol feirniadu’r llywodraeth am oedi wrth roi gwybod i fenywod am sut y byddant yn cael eu heffeithio gan newidiadau i’r oedran ymddeol.
Llun o ymgyrchwyr Waspi yn Glasgow, 2023 (Andrew Milligan/PA Wire)