Newyddion S4C

Llysgennad yn galw am fwy o fasnach rhwng Cymru a'r Ffindir

ITV Cymru 20/03/2024
Llun o Lysgennad Siukossari, credit Ossi Piispanen

Ar drothwy'r gêm fawr rhwng Cymru a'r Ffindir nos Iau, mae Llysgennad Y Ffindir i’r DU wedi dweud bod yna gyfle am fwy o gydweithredu rhwng busnesau yn y ddwy wlad.


Gwnaeth Jukka Siukosaari,  ei sylwadau wrth siarad ag ITV Cymru Wales. 


Dywedodd Siukosaari "nad oedd traddodiad" o allforio nwyddau o Gymru i'r farchnad rhyngwladol, ond y gallai hynny newid. 

Dywedodd ei fod yn credu dylai Llywodraethau Cymru a’r Ffindir annog hyn drwy “ddod ag arweinwyr busnes o’r ddwy wlad at ei gilydd.”


Wrth drafod y trefniadau masnach ôl-Brexit rhwng y DU a’r Ffindir, dywedodd Mr Siuokosaari: “Nid yw’r rhifau mor fawr a baswn yn hoffi eu gweld; o’r holl fasnachu rydym yn gwneud efo’r DU, mae Cymru yn rhan fach.” 


Mae ffigyrau blynyddol gan Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU yn dangos bod Cymru yn 2022 wedi allforio nwyddau gwerth £65 miliwn, ac wedi mewnforio £84 miliwn. 


Er bod Llywodraeth y DU wedi adrodd cynnydd ar draws y DU mewn allforion i’r Ffindir yn 2023, roedd y ganran o’r holl nwyddau wedi’u hallforio yno o Gymru (4.4%) yn parhau i fod yn llai na’r Alban (14.5%) a phob rhan arall o Loegr heblaw’r De Orllewin (3.6%). 


Dywedodd Mr Siukosaari ei fod yn credu bod yna “ddiffyg traddodiad” yng Nghymru o fusnesau bach yn allforio eu nwyddau, a bod  llywodraeth Y Ffindir yn “annog yn gryf” bod eu cwmnïau “yn mynd yn rhyngwladol yn gynnar.” 


Aeth ymlaen i ddweud bod y llysgenhadaeth a llywodraeth y Ffindir yn “fwy na bodlon” i drafod a darganfod “cyfleoedd ar y cyd” gyda Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog newydd, Vaughan Gething. 


Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Er gwaetha’r sefyllfa economaidd heriol, mae ein Cynllun Gweithredu Allforio, sy'n canolbwyntio ar fentrau bach a chanolig, wedi cynyddu y nifer sydd yn mabwysiadu ein cymorth allforio yn sylweddol. 


“Mis Tachwedd diwethaf, fe wnaethom ni gynnal digwyddiad ar gyfer dirprwyaeth o dîm Gogledd Ewrop yr Adran Busnes a Masnach i roi’r cyfle i fwy na 30 o funesau bach yng Nghymru drafod cyfleoedd allforio i’r Ffindir, Sweden, Norwy a Denmarc.


“Rydym yn barod wedi arwain 19 o deithiau masnach yn y flwyddyn ariannol hon a byddem yn falch i drafod cyfleoedd ar gyfer busnesau o Gymru i weithio gyda’r Ffindir yn y dyfodol.”

Llun: Ossi Piispanen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.