Newyddion S4C

WhatsApp: Swyddogion Heddlu Gwent i wynebu achos camymddwyn difrifol

20/03/2024
Heddlu

Bydd dau o swyddogion Heddlu Gwent yn wynebu achos camymddwyn difrifol wedi cyhuddiadau eu bod nhw wedi rhannu negeseuon sarhaus.

Bydd un cyn swyddog hefyd yn wynebu gwrandawiad wedi ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Maen nhw yn ymchwilio i negseuon WhsatApp sarhaus a gafodd eu rhannu gan y criw.

Dywedodd cyfarwyddwr yr IOPC David Ford: “Roedd cynnwys rhai o’r negeseuon a archwiliwyd gennym yn codi pryderon difrifol am ymddygiad y swyddogion heddlu dan sylw.

“Ni ddaethom o hyd i unrhyw dystiolaeth i gadarnhau honiad bod Heddlu Gwent wedi ceisio cuddio negeseuon amhriodol, a allai fod wedi awgrymu llygredd. 

"Roedd y dystiolaeth yn dangos bod y chwiliadau a wnaed gan yr heddlu ar ffôn Ricky Jones yn rhesymol a chymesur o dan yr amgylchiadau ar y pryd.”

Yr ymchwiliad

Ymchwiliodd yr IOPC i 11 o swyddogion – naw swyddog mewn swydd a dau gyn swyddog.

Bydd dau swyddog sy'n gwasanaethu, ac un cyn swyddog, yn wynebu gwrandawiadau camymddwyn difrifol cyn gynted â phosibl. Mae'r ddau swyddog sy'n gwasanaethu yn parhau i fod wedi'u gwahardd.

Maen nhw eisoes wedi cynnal cyfarfodydd camymddwyn ar gyfer pedwar swyddog; cafwyd bod honiadau o gamymddwyn wedi'u profi ar gyfer tri swyddog a gafodd rybudd ysgrifenedig. 

Ar gyfer y pedwerydd swyddog, ni phrofwyd camymddwyn a bydd yn cymryd rhan mewn ymarfer myfyriol.

Ymddiswyddodd dau swyddog o'r heddlu tra'n cael eu hymchwilio am gamymddwyn. Ni ellir cymryd unrhyw gamau pellach yn eu herbyn.

Gadawodd cyn-swyddog arall yr heddlu sawl blwyddyn cyn dechrau ymchwiliad yr IOPC sy'n golygu na all penderfyniad gael ei wneud ar ei achos.

Nid oedd unrhyw gamau pellach yn erbyn un swyddog mewn swydd ar ôl i'r IOPC roi'r gorau i'w hymchwiliad i'r unigolyn hwnnw.

‘Rhybudd llym’

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent Pam Kelly ei bod hi wedi ei “syfrdanu gan gynnwys y negeseuon WhatsApp ac yn benderfynol o sicrhau bod yr ymddygiad hwn yn cael ei drin yn gadarn”.

Ychwanegodd y bydd y “gwrandawiadau camymddwyn difrifol y byddwn yn eu cynnal cyn gynted â phosibl”. 

“Mae mwyafrif y swyddogion yn gwasanaethu ein cymunedau gyda balchder, proffesiynoldeb ac uniondeb. Dyma mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl a'r hyn y maent yn ei haeddu,” meddai Pam Kelly.

“Rydym wedi bod yn gwbl glir na fyddwn yn goddef ymddygiad gwael a dylai’r achos hwn fod yn rhybudd llym o ganlyniadau ymddygiad amhriodol ar-lein.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.