Gwasanaeth Ambiwlans yn galw ar bobl i gofrestru diffibrilwyr
Gwasanaeth Ambiwlans yn galw ar bobl i gofrestru diffibrilwyr
Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o bobl yng Nghymru sy'n dymuno prynu diffibrilwyr ers i bêl-droediwr gael ataliad ar y galon yn ystod gem Euro 2020, yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mae ffigyrau'n dangos fod dros 6,000 o bobl yn dioddef ataliad ar y galon bob blwyddyn yng Nghymru, ond dim ond 56% o oedolion sydd yn dweud y bydden nhw’n gwybod sut i helpu yn y fath sefyllfa.
Wrth i fwy o bobl ofyn am gyngor ar brynu diffibrilwyr ers i Christian Eriksen gael ei adfywio gyda’r teclyn yn ystod gem rhwng Denmarc a’r Ffindir, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn galw ar bobl i sicrhau eu bod nhw’n cofrestru’r diffibrilwyr.
Dywedodd Tomos Hughes o Wasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae diffibrilwyr yn bwysig iawn i achub bywydau ar draws cefn gwlad Cymru ac ar draws Cymru gyfan.
“Rydyn ni’n trio cael y neges allan ar draws Cymru i bobl sicrhau eu bod nhw’n cofrestru y diffibrilwyr,” meddai Mr Hughes.
“Os dydych chi ddim yn cofrestru’r diffibrilwyr, pan mae ‘na ddigwyddiad ataliad ar y galon byddwn ni ddim yn gwbod ble ma’r diffibrilwyr, felly bydden ni ddim yn gallu gyrru i fynd i’w ‘nol.
“Felly bydd y siawns o fedru achub bywyd y person yn isel iawn.”
Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn gofyn i bobl gofrestru eu diffibrilwyr gyda’r rhwydwaith cenedlaethol, The Circuit.