Newyddion S4C

Vaughan Gething wedi ei ethol yn Brif Weinidog newydd Cymru gan aelodau’r Senedd

20/03/2024
Vaughan Gething

Mae Vaughan Gething wedi ei ethol yn Brif Weinidog newydd Cymru gan aelodau’r Senedd.

Cafodd yn cyn weinidog economaidd 50 oed ei ethol yn unfrydol gan aelodau ei blaid ei hun yn y Senedd tra bod aelodau Plaid Cymru wedi pleidleisio dros Rhun ap Iorwerth a'r Ceidwadwyr dros Andrew RT Davies.

Mae’n golygu mai Humphrey Vaughan ap David Gething – ei enw llawn – yw pumed arweinydd Llywodraeth Cymru ers dechrau datganoli.

Ef yw arweinydd croenddu cyntaf un o genhedloedd y Deyrnas Unedig a'r cyntaf yn Ewrop yn yr oes fodern.

"Llywydd, ni allaf adael i’r etholiad hwn basio heb ddweud rhywbeth am ei arwyddocâd hanesyddol," meddai.

"Wedi’r cyfan fi yw arweinydd cyntaf fy mhlaid – ac yn wir fy ngwlad – gydag ‘ap’ yn ei enw.

"Wrth gwrs, heddiw rydym wedi pleidleisio i sicrhau mai Cymru yw’r genedl gyntaf yn Ewrop i gael ei harwain gan berson du.

"Mater o falchder dros y Gymru fodern ond hefyd yn gyfrifoldeb brawychus i mi – un na fyddaf byth yn ei gymryd yn ysgafn."

Image
Vaughan Gething

'Haeddu mwy'

Yn ei araith dywedodd ei fod wedi gofyn i'w deulu brynu "het dun" iddo i'w wrachod rhag ymosodiadau.

"Mae Cymru yn haeddu mwy nag ysbeidiau heulog," meddai yn Gymraeg.

Mae’n olynu Alun Michael – oedd yn arddel teitl Prif Ysgrifennydd y Cynulliad ar y pryd – a Rhodri Morgan, Carwyn Jones, a Mark Drakeford yn y swydd.

Daw ei etholiad ffurfiol yn y Senedd yn dilyn ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur gan aelodau’r blaid a chyrff cysylltiol ddydd Sadwrn. 

Curodd y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles, mewn gornest agos o 51.7% i 48.3% o’r pleidleisiau.

Yn gynharach, am hanner dydd daeth cadarnhad gan y Llywydd Elin Jones bod y Brenin wedi derbyn ymddiswyddiad Mark Drakeford, gan olygu bod Cymru heb Brif Weinidog am rai oriau.

Image
Mark Drakeford
Mark Drakeford ar y meinciau cefn

'Heriau sylweddol'

Wrth ymateb, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ei fod yn “llongyfarch” y Prif Weinidog newydd.

“Mae’n etifeddu heriau sylweddol o ganlyniad i record Llafur mewn llywodraeth yng Nghymru, ynghyd â llymder y Torïaid,” meddai.

Roedd yn etifeddu “economi sy’n pallu, rhestrau aros hirach y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a safonau addysgol sy’n gostwng".

“Rydyn ni’n gwybod bod ymgyrch arweinyddiaeth Llafur yn ymrannol, ond fe welson ni hefyd brinder syniadau newydd.,” meddai.

“Bydd pobl Cymru, yn gwbl briodol, yn meddwl bod yr hyn sydd o'u blaenau yn debygol o fod yn debyg iawn i’r hyn a ddaeth o’r blaen.”

Ychwanegodd ei fod yn “bwysicach nag erioed cael llais cryf Plaid Cymru yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf ac yn gwneud y mwyaf o’i dylanwad i sicrhau newid cadarnhaol yng Nghymru”.

'Hanesyddol'

Ymysg yr rheini i longyfarch Vaughan Gething oedd Prifysgol Aberystwyth lle y graddiodd yn y Gyfraith ym 1999.

Gwasanaethodd yno fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ac fel Llywydd Undeb Genedlaethol Myfyrwyr Cymru.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog, dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, a’r Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Mae’n bleser gennym, ar ran Prifysgol Aberystwyth, ddymuno ein llongyfarchiadau cynhesaf i chi ar gael eich ethol i swydd y Prif Weinidog. 

"Fel cyn-fyfyrwyr Aberystwyth ein hunain, gwyddom y bydd eich etholiad yn destun ysbrydoliaeth a balchder mawr i’n myfyrwyr, staff a phawb sy’n gysylltiedig â’r sefydliad hwn. 

"Mae eich ethol fel y person du cyntaf i’r swydd hon yn foment hanesyddol i'r genedl gyfan ei dathlu."

Vaughan Gething fydd yr ail gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth i’w ethol i’r rôl. Gwasanaethodd Carwyn Jones, sydd bellach yn Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, fel Prif Weinidog rhwng 2009 a 2018. Graddiodd yn y Gyfraith o Aberystwyth yn 1988.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.