Newyddion S4C

Disgwyl i Vaughan Gething gael ei gadarnhau'n Brif Weinidog Cymru

20/03/2024
Vayghan Gething

Mae disgwyl cadarnhad ddydd Mercher mai Vaughan Gething fydd Prif Weinidog nesaf Cymru. 

Enillodd Mr Gething arweinyddiaeth Llafur Cymru ar ôl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi ddydd Sadwrn.

Y ddau yn y ras oedd Jeremy Miles, y gweinidog dros addysg a’r Gymraeg, a Mr Gething, sydd wedi bod yn weinidog dros yr economi yng nghabinet Mark Drakeford.

Fe fydd Mr Gething yn olynu Mr Drakeford fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, a'r disgwyl ydy y bydd yn bumed Prif Weinidog ar y wlad ddydd Mercher.

Ymddiswyddodd y prif weinidog presennol, Mark Drakeford, yn dilyn ei sesiwn gwestiynau olaf yn y Senedd ddydd Mawrth.

Caiff pleidlais ei chynnal i ddewis y Prif Weinidog newydd ddydd Mercher, gydag arweinydd Llafur Cymru, sydd â hanner y seddi yn y Senedd, bron yn sicr o'i hennill.

Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi gan y Llywydd Elin Jones. Yna bydd y Llywydd yn anfon llythyr at y Brenin yn argymell penodi'r unigolyn.

Unwaith y bydd y Brenin yn rhoi sêl bendith bydd y Prif Weinidog newydd yn cymryd llw'r diwrnod hwnnw.

Cyhoeddodd Plaid Cymru y byddant yn enwebu eu harweinydd, Rhun ap Iorwerth, yn y bleidlais i ethol Prif Weinidog Cymru ddydd Mercher. 

Dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, y byddai'r blaid yn "cynnig y cyfle i Aelodau Llafur o'r Senedd sydd ag ystyriaethau moesegol i wneud y peth iawn." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.