Carcharu peilot am geisio hedfan awyren ar ôl yfed alcohol
Mae peilot wedi cael ei garcharu am 10 mis, am fod lefel yr alcohol yn ei waed ddwywaith a hanner yn fwy na'r lefel gyfreithlon cyn iddo geisio hedfan awyren o Faes Awyr Caeredin i Efrog Newydd.
Cafodd y Capten Lawrence Russell, 63, ei atal ym Maes Awyr Caeredin yn Yr Alban, tra roedd yn ei wisg peilot ar ôl i beiriant pelydr x wrthod ei fag wrth iddo geisio mynd ar fwrdd awyren Boeing 767 a oedd ar ei ffordd i Efrog Newydd ar 16 Mehefin 2023.
Dywedodd erlynwyr yn ei achos llys ei fod wedi peryglu "cannoedd o fywydau" gan "ddiystyru diogelwch mewn modd rhyfygus."
Fe gyfaddefodd iddo baratoi ar gyfer ei shifft waith fel peilot, gydag alcohol yn ei waed.
Cafodd Russell, o Georgia, America gais i gymryd y prawf alcohol am 09.30 y bore.
Cododd pryderon wedi i botel o Jagermeister a oedd wedi ei hagor, gael ei darganfod yn ei fag, yn ogystal â photel arall a oedd yn hanner llawn.
Plediodd Russell yn euog yn Llys y Siryf, Caeredin ar 6 Mawrth a chafodd ei ddedfrydu i garchar am 10 mis ddydd Mawrth.