Dros filiwn wedi gwylio seren YouTube yn siarad Cymraeg yng Nghanada
Mae Cymraes sydd yn gweithio mewn ardal anghysbell yng Nghanada wedi dweud ei fod ‘sbesial’ pan gychwynnodd seren YouTube sgwrs gyda hi yn y Gymraeg.
Teithiodd Mali Siôn, sydd yn wreiddiol o Benmachno, Sir Conwy i weithio yn nhalaith Saskatchewan fis Rhagfyr y llynedd.
Ond wrth weithio fel arweinydd teithiau sled gyda chŵn husky, cafodd ei synnu pan ddechreuodd rhywun sgwrs gyda hi yn y Gymraeg – ryw 4,000 o filltiroedd o adref.
Y person hwnnw oedd Arieh Smith, o Efrog Newydd, arbenigwr iaith sydd â dros 6 miliwn o bobl yn ei ddilyn ar YouTube.
Dan ei gyfrif Xiaomanyc, mae Mr Smith yn dysgu gwahanol ieithoedd y byd.
Mae'r sgwrs yn dechrau am 7:17 isod:
Syndod
Roedd yng Nghanada er mwyn dysgu iaith Cree, sy’n cael ei siarad gan bobl frodorol Sasketchwan.
Yn y fideo ble mae’n cyfarfod â Mali, sydd wedi ei weld dros 1.3 miliwn o weithiau, mae’r syndod yn amlwg ar ei hwyneb pan mae’n gofyn, “Wyt ti’n siarad Cymraeg?”, ar ôl iddi hi ddweud mai o Gymru yr oedd hi’n dod.
Wrth siarad ar Radio Cymru, dywedodd Mali: “Oedd o’n ddipyn o sioc i fod yn onest efo chi i glywed o’n siarad Cymraeg.
“Oedd y bos wedi gadael i ni wybod bod o ar y ffor’ draw ag oedd rhywun wedi sôn bod o’n reit boblogaidd ar YouTube.
I wylio'r fideo gyfan, cliciwch yma.
“Pan ti’n neud tours a ballu, ti’m yn meddwl am bwy sy’n dod draw i 'neud nhw. Mae dy feddwl di ar y cŵn, pwy ti am ddefnyddio a lle ‘da chi am fynd so pan naeth o droi i fyny, oni fatha ‘o, dwi yn nabod dy wyneb di o rywle."
Mae Cymraeg yn un o 50 o ieithoedd i Mr Smith eu dysgu, ac mae ei ymweliad â Chaerdydd ble mae’n siarad Cymraeg gyda phobl y brifddinas yn destun fideo arall ar YouTube, sydd wedi ei weld dros filiwn o weithiau.
“O’n i di gwylio’r clip ohono fo’n dysgu Cymraeg yng Nghaerdydd,” meddai Mali.
“Ond oedd o dal fel, ‘Be? Ti’n siarad Cymraeg yng nghanol Canada?'
“Jest y sgwrs yna efo Arie dwi di gael [yn y Gymraeg].
“Dwi heb gael y cyfle i siarad Cymraeg oni bai bo fi’n ffonio adra, so oedd o’n reit rhyfadd i switchio i’r Gymraeg yn wyneb yn wyneb efo rhywun. Oedd o’n reit sbesial."
Roedd Mali, sy’n gyn-aelod o’r band Serol Serol, yn gweithio i gwmni Connor Family Racing and Tours, yn cynnal teithiau gyda chŵn Husky ar draws ardaloedd Manitoba ac Alberta.
Dywedodd ei bod ar daith dwy flynedd â Chanada, a bydd yn gobeithio cael swydd ym mharc cenedlaethol Banff fis nesaf, ar ddiwedd ei swydd bresennol.
“O'n i’n gwybod bo fi isho mynd allan i neud rwbath, ac i wneud rhywbeth efo cŵn.
“Nesh i ffeindio’r job yma ac ryw dwy, dair mis wedyn o’n i’n bwcio fisa a ffleits fi draw yma a ballu. So oedd o’n reit sydyn ond dwi’n falch nesh i gymryd y cam yma.
“Y peth pwysica’ oedd gal profiad o weithio efo cŵn, a dwi di bod yn gwneud hynny ers rhyw bum mlynedd. So oeddan nhw’n reit awyddus i gael fi draw yna yn dysgu ffordd newydd o fod efo cŵn, i weithio nhw yn hytrach na edrych ar eu hôl nhw.
“Mae’r fisa’n para am dwy flynedd so dwi isho trio defnyddio hwnna i fyny cyn gymaint a fedrai. Dyna di’r plan, dwy flynadd allan yma a gawn ni weld ar ôl hynna.”
Llun: YouTube/Xiomanyc