Carcharu'r person cyntaf yng Nghymru a Lloegr am 'seibr-fflachio'
Mae'r person cyntaf yng Nghymru a Lloegr wedi ei garcharu am y drosedd o 'seibr-fflachio'.
Cafodd Nicholas Hawkes o Basildon, Essex, ei ddedfrydu i 66 wythnos o garchar am y drosedd o dan y Ddeddf Diogelwch Arlein.
Mae'r drosedd yn ymwneud ag unigolyn yn anfon llun anweddus i berson arall ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy apiau, Bluetooth neu Airdrop, a hynny'n ddi-rybudd ac heb gais i wneud hynny.
Roedd Hawkes yn droseddwr rhyw yn barod pan anfonodd luniau anweddus o ran o'i gorff i ferch 15 oed a menyw ar 9 Chwefror, yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Fe wnaeth y fenyw gadw copi o'r llun ar WhatsApp ac yna adrodd am y digwyddiad wrth Heddlu Essex yr un diwrnod.
Roedd wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad cynharach yn Llys Ynadon Southend i ddau gyhuddiad o anfon lluniau neu fideo o'i organau rhywiol gyda'r bwriad o ddychryn, creu aflonyddwch neu sarhad.
Cafodd ei garcharu yn Llys y Goron Southend ddydd Mawrth.
Mae dioddefwyr y drosedd newydd yn cael aros yn anhysbys am oes o'r amser y maen nhw'n adrodd am y drosedd i'r heddlu.