Modd ‘osgoi’ gwrthdrawiad a laddodd plentyn 20 mis oed ar yr A55

Mae cwest i farwolaeth plentyn 20 mis oed mewn gwrthdrawiad ar yr A55 y llynedd wedi clywed y byddai'r gwrthdrawiad wedi gallu cael ei osgoi yn llwyr.
Roedd Elis Wyn Owen yn teithio yn Ford Mondeo ei dad, Dewi Owen, ar hyd yr A55 ger Gwalchmai, Ynys Môn ym mis Chwefror 2020 pan darodd y cerbyd yn erbyn lori.
Bu farw’r bachgen 21 mis oed yn fuan wedi iddo gyrraedd Ysbyty Gwynedd ym Mangor ar ôl dioddef anafiadau difrifol i'w ben.
Fe ddioddefodd ei fam, Ashley Morley, anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad.
Daeth ymchwilydd gwrthdrawiadau ar ran Heddlu Gogledd Cymru i’r casgliad fod tad y bachgen “wedi methu gwerthfawrogi presenoldeb y lori.”
Ychwanegodd: “Roedd modd osgoi'r gwrthdrawiad hwn yn llwyr.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Margaret Clough