Newyddion S4C

Dyn yn marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng cerddwr a char yn Sir Gâr

18/03/2024
Gwrthdrawiad Porth tywyn

Mae dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad gyda char yn Sir Gâr.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i’r B4311 Ashburnham Road, ger Seaview Terrace, ym Mhorth Tywyn am 22.50 nos Wener 15 Mawrth, yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng cerddwr a char.

Bu farw’r cerddwr yn dilyn y gwrthdrawiad. Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.

Volvo V40 lliw arian oedd y car yn y gwrthdrawiad.

Mae’r heddlu wedi cychwyn ymchwiliad ac yn gofyn i unrhyw un oedd yno adeg y ddamwain, i gysylltu gyda nhw.

Mae swyddogion hefyd yn apelio ar unrhyw yrwyr a all fod gyda lluniau dashcam, i’w rhannu gyda nhw.

Gallai unrhyw un â gwybodaeth neu luniau camera gysylltu â Heddlu Dyfed Powys gan ddyfynnu’r cyfeirnod DP-20240315-426.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.