Newyddion S4C

Yr Elyrch yn trechu’r Adar Gleision yn y gêm ddarbi de Cymru

16/03/2024
Abertawe v Caerdydd

Mae Abertawe wedi curo Caerdydd 2-0 yn y gêm ddarbi yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

Llwyddodd y tîm cartref osgoi colli am yr eildro y tymor hwn i’w gwrthwynebwyr o dde Cymru.

Liam Cullen o orllewin Cymru sgoriodd y gôl gyntaf dros yr Elyrch yn yr hanner cyntaf. Ond fe fethodd ymgais o’r smotyn yn gynnar yn yr ail hanner fyddai wedi gwneud pethau’n llawer yn well i’w dîm.

Daeth ail gôl i Abertawe yn y munudau olaf gan Jamal Lowe.

Roedd hwb i Gymru hefyd wrth i Aaron Ramsey gael ei enwi ar y fainc ac fe ddaeth i'r cae am chwarter ola'r gêm.

Mae hyn yn golygu fod Abertawe yn y 14eg safle yn y Bencamowriaeth tu ôl i Gaerdydd sydd yn 11eg safle.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.