Newyddion S4C

Dirwy i ddyn o Landeilo am fridio cŵn heb drwydded

23/06/2021
Ci

Mae dyn o Sir Gaerfyrddin wedi ymddangos o flaen llys ar ôl gwneud bron i £34,000 drwy fridio cŵn heb drwydded.

Gwnaeth Matthew Thomas o Landeilo gyfaddef i ynadon Llanelli ei fod wedi bridio cŵn heb drwydded, er y dywedwyd wrtho am beidio ar sawl achlysur.

O dan y Rheoliadau Bridio Cŵn, mae rhaid cael trwydded er mwyn bridio tri neu fwy o doreidiau o gŵn o fewn cyfnod o 12 mis.

Clywodd y llys fod y dyn 38 oed wedi cysylltu â'r cyngor am y tro cyntaf i gael cyngor am fridio cŵn a chael trwydded yn 2018, ond ei fod wedi bridio nifer o doreidiau o gŵn heb drwydded yn y blynyddoedd yn dilyn hynny.

Ar un achlysur, dywedodd Thomas wrth swyddogion iechyd anifeiliaid ei fod wedi cael tair torraid, a chafodd rybudd.

Yr un mis, ffoniodd y cyngor i roi gwybod bod ei gi wedi cael torraid ddamweiniol, ac fe gafodd rybudd bod angen iddo roi’r gorau i fridio a bod angen iddo wahanu cŵn oddi wrth eist.

Ar achlysur arall, cysylltodd Thomas â’r cyngor yn gofyn a allai fridio dwy dorraid ychwanegol gan ei fod yn brin o arian, ond ni chafodd ganiatâd gan nad oedd ganddo drwydded.

Clywodd y llys hefyd bod Thomas wedi rhestru pedair torraid o filgwn o fewn cyfnod o 13 mis ar safleoedd hysbysebu.

Gwnaeth Thomas gyfaddef ei fod wedi bridio dros nifer y toreidiau sy’n cael ei ganiatáu, ond fe wnaeth honni mai'r rheswm am hyn oedd ei fod yn ddyslecsig ac nad oedd yn deall geiriad y rheoliadau.

Cafodd ddirwy o £500 ac mae'n rhaid iddo dalu £1,208 o gostau a £50 o ordal dioddefwr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.