Codi cyflogau ASau i dros £90,000 y flwyddyn
Mae disgwyl i ASau gael codiad cyflog o 5.5% o fis Ebrill – gan ddod â’r cyflog cyffredinol i £91,346.
Fe gyhoeddodd y corff sy'n archwilio treuliau’r Senedd y codiad cyflog ddydd iau.
Dywedodd yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA) fod y penderfyniad wedi'i wneud yn unol â'r dyfarniad a gytunwyd yn ddiweddar ar gyfer uwch swyddogion y gasanaeth sifil.
Mae’r cynnydd dipyn yn fwy na’r codiad cyflog o 2.9% y llynedd, pan ddywedodd y corff gwarchod treuliau ei fod wedi “ystyried yn ofalus iawn” y cefndir economaidd “hynod o anodd” yng nghanol yr argyfwng costau byw.
Mae'r codiad hefyd yn uwch na chyfradd chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI). Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi awgrymu mai 4% oedd hwnnw ym mis Ionawr.
'Teg'
Wrth gyhoeddi'r penderfyniad, dywedodd Richard Lloyd, cadeirydd IPSA: “Mae IPSA wedi bod yn gyfrifol am benderfynu ar gyflogau ASau ers 2011.
"Ers hynny, ein nod yw gwneud penderfyniadau teg ar gyflog, i ASau a’r cyhoedd.
“Ni ddylai gwasanaethu fel AS gael ei neilltuo i’r rhai sy’n ddigon cyfoethog i’w ariannu eu hunain a credwn fod ein penderfyniad yn cydnabod y rhan hanfodol y mae ASau yn ei chwarae yn ein democratiaeth ac yn ystyried yr heriau economaidd parhaus sy’n wynebu’r wlad.
"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi senedd sy’n adlewyrchu ein cymdeithas, lle gall pobl o bob cefndir benderfynu dod yn ASau.”
Fe gafodd IPSA ei sefydlu yn 2009, yn bennaf fel ymateb i sgandal treuliau ASau, gyda'r gobaith wneud taliadau’n fwy tryloyw a dod i benderfyniadau annibynnol ar gyflogau.