Newyddion S4C

'Twll enfawr yn ein bywydau': Teyrnged teulu i ddynes a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

13/03/2024
Alice Smith

Mae rhieni dynes a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gâr ddydd Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddi.

Bu farw Alice Smith, 31 oed tra'n beicio ar hyd y B4306 ger Yr Hendy pan fu mewn gwrthdrawiad â char Seat Ibiza coch.

Dywedodd ei theulu y bydd "twll mawr yn ein bywydau" yn dilyn ei marwolaeth.

“Roedd Alice yn hyfforddi ar gyfer triathlon yn Barcelona yn ddiweddarach eleni ac roedd ar ei ffordd i Langyndeyrn pan fu farw.

"Roedd Alice ar ei hapusaf ymhlith ei ffrindiau agos, ei chydweithwyr a'i chylch marchogaeth. Roedd ganddi bob amser wên a gair caredig i ddweud am bawb roedd hi'n eu cyfarfod," medde'r teulu mewn datganiad.

"Yn ogystal â’i hyfforddiant ar gyfer triathlonau a Iron Man, roedd Alice yn dechrau dod yn farchog dressage dawnus ac roedd ar fin cystadlu yn rowndiau terfynol Petplan gyda’i cheffyl annwyl Tess.

"Mae colli Alice wedi gadael twll enfawr yn ein bywydau ni a bywydau pawb oedd yn ei hadnabod.”

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad.

Cafodd gyrrwr y Seat Ibiza ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus. Bellach mae wedi cael ei ryddhau tra bod yr heddlu yn parhau â'u hymholiadau.

Yn ôl y llun, y gred yw bellach efallai fod y Seat Ibiza coch wedi teithio o Bontyberem i Drefach, ac yna gadael Drefach ar y B4310 i gyfeiriad Y Tymbl.

Parhaodd y cerbyd o'r Tymbl i Lannon ar yr A476 cyn troi ar y B4306 i gyfeiriad Yr Hendy.

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am dystion a allai fod â gwybodaeth.

Maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â lluniau o'r car coch yn yr ardal  ar gamera dashfwrdd, cloch drws neu lluniau teledu cylch cyfyng. Mae nhw'n edrych am unrhyw luniau rhwng 13:15-14:00 ddydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.