Newyddion S4C

Chwe Gwlad: George North a Nick Tompkins yn dychwelyd i herio'r Eidal

13/03/2024
North Tompkins

Bydd George North a Nick Tompkins yn dychwelyd i dîm Cymru yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn, wrth iddyn nhw geisio osgoi'r llwy bren ar waelod tabl y Chwe Gwlad.

Mae Warren Gatland wedi gwneud pedwar newid i’w dîm i herio’r Eidalwyr, gan alw’r bartneriaeth brofiadol yng nghanol y cae yn ôl i'r pymtheg cychwynnol ar gyfer y gêm yng Nghaerdydd.

Joe Roberts ac Owen Watkin sydd yn methu allan y tro hwn, ar ôl iddyn nhw chwarae yng nghanol cae yn y golled 24-45 yn erbyn y Ffrancwyr.

Bydd Dillon Lewis yn dechrau fel prop pen tynn yn lle Keiron Asiratti, tra bod Alex Mann yn dychwelyd i’r tîm cychwynnol, gyda’r clo Will Rowlands ar y fainc.

Bydd y capten Dafydd Jenkins yn symud yn ôl i’r ail reng i bartneru Adam Beard.

Ymhlith yr eilyddion mae’n debygol y bydd y prop pen tynn Harri O’Connor yn ennill ei gap cyntaf - tra bydd ei gyd chwaraewr gyda’r Scarlets, Kemsley Mathias, yn cynnig opsiwn ar ben rhydd y rheng flaen. 

Mae dau aelod arall o ranbarth y Scarlets ar y fainc yn ogystal – sef y mewnwr Kieran Hardy a’r olwr Ioan Lloyd.

Dywedodd Warren Gatland: “Mae’n amlwg bod hon yn gêm bwysig i ni. Tydan ni ddim eisiau gorffen ar waelod y tabl wrth gwrs ac mae’r garfan yn awchu i wneud eu gorau i sicrhau nad yw hynny yn digwydd a’n bod yn ennill ddydd Sadwrn.

“Mae gan Yr Eidal chwaraewyr o safon ym mhob safle ac maen nhw wedi bod yn effeithiol wrth sgorio’n gyson yn ystod eu gemau hyd yn hyn ym Mhencampwriaeth eleni.

“Mae ‘na gyffro mawr yn y garfan ac ry’n ni’n edrych ymlaen at y gêm a’r her ddaw yn sgil hynny. ‘Ry’n ni’n dal i edrych am berfformiad cyflawn a chyson dros yr 80 munud ac ‘ry’n ni wedi siarad am bwysigrwydd gwneud y penderfyniadau cywir ar eiliadau allweddol yr ornest yn enwedig.

“Ry’n ni’n deall y disgwyliadau sydd ar ein hysgwyddau. Mae’n rhaid i ni ymateb yn gadarnhaol i hynny a pharhau i weithio’n ddi-flino. Bydd yn rhaid i ni fod yn gywir a disgybledig yn ein chwarae ddydd Sadwrn ac os gwnawn ni hynny – dylai’r darnau ddisgyn i’w lle.”

Tîm Cymru yn erbyn yr Eidal

15. Cameron Winnett (Caerdydd – 4 cap)
14. Josh Adams (Caerdydd – 58 cap)
13. George North (Gweilch – 120 cap)
12. Nick Tompkins (Saracens – 35 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 18 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 11 cap)
9. Tomos Williams (Caerdydd – 57 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 29 cap)
2. Elliot Dee (Dreigiau – 50 cap)
3. Dillon Lewis (Harlequins – 56 cap)
4. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 16 cap) Capten
5. Adam Beard (Gweilch – 55 cap)
6. Alex Mann (Caerdydd – 4 cap)
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 17 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 47 caps)

Eilyddion

16. Evan Lloyd (Caerdydd – 1 cap)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – 1 cap)
18. Harri O’Connor (Scarlets – heb gap)
19. Will Rowlands (Racing 92 – 32 cap)
20. Mackenzie Martin (Caerdydd – 2 cap)
21. Kieran Hardy (Scarlets – 20 cap)
22. Ioan Lloyd (Scarlets – 6 cap)
23. Mason Grady (Caerdydd – 10 cap)

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.