Y Llywodraeth am gynnal ymgynghoriad ar breifateiddio Channel 4

Channel 4
Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar breifateiddio’r sianel deledu Channel 4.
Roedd yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi cyhoeddi’r penderfyniad ddydd Mercher, ar ôl i Aelodau Seneddol holi’r darlledwr ar y mater ddoe.
Fe fyddai symud Channel 4 i berchnogaeth breifat yn sicrhau “ei llwyddiant yn y dyfodol a’i chynaliadwyedd”, meddai’r adran mewn datganiad.
Fe fydd yr ymgynghoriad hefyd yn adolygu’r rheolau o ran ffrydio gwasanaethau fel Netflix, Disney+ ac Amazon Prime Video, yn ôl Golwg360.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Matt From London