Newyddion S4C

'Anodd dychmygu byw hebddo': Teyrnged teulu i fachgen 15 oed o Lanbedr Pont Steffan

12/03/2024
Callum Wright

Mae teulu bachgen 15 oed o Lanbedr Pont Steffan wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Callum Wright ar ddydd Gwener 1 Mawrth gerllaw'r dref yng Ngheredigion.

Dywedodd ei deulu eu bod nhw wedi “torri eu calonnau yn llwyr”.

“Rydyn ni’n ei chael hi’n anodd dychmygu byw mewn byd heb Callum,” medden nhw.

“Rydyn ni wedi ein gorlethu gan y gefnogaeth mae’r gymuned wedi ei ddangos tuag atom ni.

“Roedden ni’n gwybod bod Callum yn unigolyn oedd yn edrych ar ôl eraill ond rydyn ni wedi ein cyffwrdd yn ddwfn gan y straeon amdano sydd wedi eu rhannu gyda ni.

“Mae’n dangos yr effaith mawr yr oedd wedi ei gael ar fywyd eraill.”

Dywedodd y teulu na ddylai unrhyw un “ddioddef yn dawel”.

“Mae yna nifer o bobol sy’n pryderu amdanoch chi fel ac sy’n poeni am Callum,” medden nhw.

“Anghofiwch y stigma - dylai bechgyn allu siarad a pheidio cadw pethau i’w hunain.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.