'Cam lan': Brett Johns i ymladd mewn cystadleuaeth MMA rhyngwladol newydd
Bydd yr ymladdwr proffesiynol Brett Johns yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth MMA ryngwladol newydd.
Mae Johns, sy'n 32 oed, wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn y Professional Fighters League eleni.
Mae’r ymladdwr o Bontarddulais wedi ei enwi yn y dosbarth pwysau plu, lle mae enillydd pob categori pwysau yn ennill gwobr o $1m (£790,000).
Bydd yn wynebu Timur Khizriev o Rwsia yn Chicago, Illinois, yn ei ornest gyntaf ar 19 Ebrill.
“Mae hwn yn gam lan mewn cystadleuaeth – dwi’n ymwybodol o hynny,” dywedodd wrth y BBC.
“Mae’n gyfle i roi sylfaen i fy nheulu a minnau.”
Mae Johns wedi ennill ei dair ornest ddiwethaf, ac ar ôl iddo arwyddo’r cytundeb newydd, fe allai ymladd bedair gwaith rhwng mis Ebrill a Rhagfyr.