Newyddion S4C

Teulu yn annog pobl i ddiffodd peiriannau wedi tân yn eu tŷ

11/03/2024

Teulu yn annog pobl i ddiffodd peiriannau wedi tân yn eu tŷ

"Mewn fan hyn na'th o ddigwydd.

"Oedd y tumble dryer a'r washing machine yn fan'na.

"Y peiriant golchi yn fan'na.

"Mi aeth y peiriant sychu dillad ar dan a dyna ni.

"Dyna gychwyn y tan i gyd."

A'r tan ei hun wedi aros yn y stafell yma?

"Y mwg sy 'di gwneud y damage i gyd.

"Na'th y tan ddim llosgi drwodd o'r stafell fach i weddill y tŷ ond mi roedd y gwres mor eithafol mi doddodd y ffenestri."

Mae'r gegin, yr ystafell fwyta a'r ystafell fyw wedi'u dinistrio'n llwyr gan y mwg.

Tŷ Euros ac Emma ydy hwn.

Maen nhw'n priodi ymhen pythefnos.

Rhyngddon nhw, mae gynnon nhw bump o blant ac yn cyfri eu bendithion nad oedd neb adre pan ddigwyddodd y cwbl.

"The amount of smoke, I could have actually got lost wuthin the house.

"I feel stupid that I even risked going in."

Roedd y peiriant sychu wedi bod ymlaen fore Mercher ac Emma wedi'i ddiffodd cyn mynd i'r gwaith ac agor y drws.

"Oedd o'n frawychus i feddwl be oedd wedi digwydd mewn cyn lleied o amser.

"Eiliad mae o'n gymryd, ynde, i ddamwain mor ofnadwy ddigwydd.

"Oedd hi'n ofnadwy 'ma.

"Fasech chi'm yn coelio'r ffasiwn beth.

"Maen nhw'n gryf, chwarae teg iddyn nhw."

Dydy Euros y mab ddim yma heddiw, mae o yn y gwaith.

Mae o 'di effeithio fo hefyd?

"Mae o 'di effeithio arno fo a'r plant hefyd.

"Yndi, y plant yn ddrwg ofnadwy pan welson nhw'r lle."

Ac ar ddiwedd wythnos mor anodd dach chi fel teulu isio rhannu'r stori er mwyn helpu pobl eraill?

"I bawb gael gwybod be sy'n gallu digwydd mor sydyn."

Be fysa'ch neges chi rŵan i bobl sy'n gwrando?

"Wel, troi popeth i ffwrdd. Y peiriannau i gyd i ffwrdd.

"Cau drysau yn bob man.

"Gwneud yn siŵr bod bobman yn saff cyn ichi fynd i'ch gwely."

Mae ystadegau sydd wedi'u rhoi at ei gilydd yn ddiweddar gan y tri gwasanaeth tan ac achub yng Nghymru yn dangos fod 158 o danau ar gyfartaledd, bob blwyddyn yn dechrau mewn peiriannau mawr mewn cartrefi er enghraifft oergelloedd neu beiriannau golchi dillad.

Mae 57% o'r rheiny yn digwydd mewn peiriannau sychu dillad.

"'Dan ni'n annog pobl i ddefnyddio'r peiriannau yn saff a gwneud yn siŵr eu bod nhw wedi'u plygio mewn i blwg 13 amp a bod nhw ddim yn gorlwytho'r peiriant.

"Peidiwch byth a gadael y tŷ gyda peiriant yn rhedeg na pan fyddwch chi'n mynd i'r gwely gyda'r nos."

Mi fydd 'na fisoedd cyn i'r teulu symud yn ôl i'w cartref.

Ar ddiwedd wythnos sydd wedi newid eu bywydau maen nhw'n gobeithio y bydd rhannu'r neges yn helpu teuluoedd eraill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.