Llywodraeth Cymru yn cydnabod Gardd Goffa Senghennydd
Mae gardd goffa sy'n cofio'r rheiny fu farw yn y "drychineb waethaf" yn hanes glofeydd Prydain wedi cael y "gydnabyddiaeth mae'n ei haeddu".
Mae’r ardd yn Senghennydd, ger Caerffili, wedi cael ei chydnabod yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru fel Gardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru.
Cafodd yr ardd ei hagor yn swyddogol yn 2013, a hynny i nodi canmlwyddiant y trychineb yn 1913 pan laddwyd 439 o lowyr.
Bellach mae'r ardd wedi cael ei hychwanegu at y Gofrestr Statudol o Barciau a Gerddi Hanesyddol Cymru i fod yn safle i gofio'r miloedd fu farw mewn trychinebau glofeydd ledled Cymru.
Dywedodd Gill Jones o Grŵp Treftadaeth Cwm Aber ei bod “mor falch” o'r gydnabyddiaeth ddiweddar.
"Mae'n waddol parhaol gan ein gwirfoddolwyr i'r 530 o ddynion a bechgyn a laddwyd yn nhrychinebau Glofa'r Universal yn 1901 a 1913, yn ogystal â'r miloedd lawer a fu farw mewn trychinebau yn y pyllau glo ledled Cymru.
“Mae pob un o'r trychinebau hynny wedi'u rhestru yn yr ardd.”
Mae'r safle'n cynnwys cerflun efydd, wal goffa a llwybr cofio.
Fe ddaw’r gydnabyddiaeth yn dilyn 40 mlynedd ers dechrau Streic Fawr 1984 yn gynharach yn y mis.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:"Mae glofeydd yn rhan fawr o'n hunaniaeth fel cenedl.
"Priodol felly yw bod safle o bwysigrwydd symbolaidd fel Gardd Goffa Lofaol Genedlaethol Cymru yn cael ei chydnabod yn ffurfiol - gan anrhydeddu'r miloedd o lowyr fu farw mewn trychinebau glofaol ledled Cymru, tra'n cadw'r diwylliant a'r cof am gymunedau glofaol yn fyw."
Prif lun o Gill Jones