Arestio dau mewn ymchwiliad i ymgymerwyr angladdau wedi 'pryderon am ofal y meirw'
Mae dyn a dynes wedi’u harestio mewn cysylltiad ag ymchwiliad i ymgymerwyr angladdau, wedi adroddiadau o “bryder am ofal y meirw”.
Mae dyn 46 oed a dynes 23 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o atal claddedigaeth gyfreithlon a gweddus, twyll trwy gynrychiolaeth ffug a thwyll trwy gamddefnyddio swydd, meddai Heddlu Glannau Humber.
Daw hyn wedi i 34 o gyrff gael eu symud gan yr heddlu o safle Legacy Independent Funeral Directors yn Hull.
Dywedodd y Dirprwy Prif Gwnstabl Thom McLoughlin: “Gallwn gadarnhau bod dyn, 46 oed a dynes 23 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o atal claddedigaeth gyfreithlon a gweddus, twyll drwy gynrychiolaeth ffug a thwyll drwy gamddefnyddio swydd ac maent yn y ddalfa ar hyn o bryd.
“Fel rhan o’n hymchwiliad, o heddiw (dydd Sul Mawrth 10), gallwn gadarnhau bod 34 o bobl sydd wedi marw bellach wedi’u cludo’n barchus o Legacy Independent Funeral Directors yn Heol Hessle i’r marwdy yn Hull er mwyn i weithdrefnau adnabod ffurfiol gael eu cynnal.
“Ers yr adroddiad ddydd Mercher 6 Mawrth, mae cordonau yn parhau yn eu lle ym mhob un o adeiladau Legacy Independent Funeral Directors.
“Mae’r llinell ffôn bwrpasol yn parhau ar agor ac wedi derbyn dros 350 o alwadau gan aelodau pryderus o’r cyhoedd ers dydd Gwener."