Chwe Gwlad: Yr Eidal yn ennill gartref am y tro cyntaf ers 2013
09/03/2024
Mae'r Eidal wedi ennill gartref am y tro cyntaf ers 2013 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Enillodd yr Azzurri yn erbyn Yr Alban 0 31-29 yn y Stadio Olimpico brynhawn Sadwrn, gan roi diwedd ar obeithion y gwrthwynebwyr i gipio'r bencampwriaeth.
Mae'r Eidal wedi colli 26 gêm gartref yn y Chwe Gwlad ers iddyn nhw guro Iwerddon o 22-15 yn 2013.
Wedi hanner cyntaf trawiadol gan Yr Alban, fe frwydrodd y tîm cartref yn ôl yn yr ail hanner gan sicrhau buddugoliaeth hanesyddol.
Fe fydd Yr Eidal yn teithio i Gaerdydd y penwythnos nesaf i wynebu Cymru yng ngêm olaf y bencampwriaeth eleni.