Pam fod gan un o sêr yr NFL datŵs Cymraeg?
Mae cryn ddyfalu ar gyfryngau cymdeithasol am pam fod un o sêr yr NFL yn yr UDA gyda dau datŵ Cymraeg ar ei gorff.
Mae Tyson Bagent yn chwarae yn safle'r 'Quarterback' i dîm y Chicago Bears yn y Gynghrair Bêl-droed Americanaidd.
Mae wedi dod i'r amlwg fod ganddo datŵs Cymraeg ar ei gorff.
Inline Tweet: https://twitter.com/EfanIfor/status/1766161441319522487?s=20
Mae'r tatŵs yn cynnwys y gair 'Teulu' a'r frawddeg 'Teimlais fy holl mywyd fy mod i fod i hedfan'.
Yn 23 oed, fe gafodd Tyson Bagent ei fagu yn Martinsburg yng Ngorllewin Virginia gan chwarae i dîm y Shepherd Rams cyn ymuno â thîm y Chicago Bears yn 2023.
Yn 2019 roedd lluniau ohono gydag un tatŵ yn unig ar ei gorff, sef y gair 'Teulu' ar ei frest.
Bellach mae wedi ychwanegu at ei gasgliad inc, gan gynnwys y dyfyniad Cymraeg arall.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Tyson i ofyn am ei gysylltiadau Cymreig.
Inline Tweet: https://twitter.com/PopethNFLCymru/status/1766214505090908210?s=20