Newyddion S4C

‘Brawychus’: Teulu o Ddinbych yn byw drwy ‘hunllef’ ar ôl i dân ddinistrio eu cartref

Newyddion S4C 08/03/2024

‘Brawychus’: Teulu o Ddinbych yn byw drwy ‘hunllef’ ar ôl i dân ddinistrio eu cartref

Mae teulu o Ddinbych yn wynebu bod yn ddigartref am fisoedd ar ôl i dân ddinistrio eu cartref.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd wedi cyhoeddi rhybudd brys ar ôl iddyn nhw gael eu galw i dannau difrifol mewn tri chartref o fewn wythnos - a hynny oherwydd peiriannau sychu dillad.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd un o’r teuluoedd hynny eu bod wedi byw drwy “hunllef”.

Mae Euros Jones, 50 oed, ac Emma Vaughan, 49 oed, yn priodi ymhen pythefnos, ac roedden nhw wedi bwriadu cynnal y parti nos yn eu cartref yn Ninbych.

Rhyngddyn nhw mae ganddyn nhw bump o blant, ac maen nhw’n dweud eu bod yn “cyfri eu bendithion” nad oedd neb adref pan ddigwyddodd y cwbl ac yn "hynod o ddiolchgar" am y gefnogaeth maen nhw wedi derbyn gan y gymuned yn Ninbych.

'Dinistrio'n llwyr'

Dechreuodd y tân fore Mercher yn yr ystafell gefn (utility). Cyn mynd i’w gwaith mi wnaeth Emma ei ddiffodd, ac agor drws y peiriant.

Mae’n debyg nad oedd wedi oeri’n ddigonol, a dyna achosodd y tân.

Image
Tân Dinbych

“Nath y tân ddim llosgi drwadd o’r stafell fach i weddill y tŷ, ond mi odd y gwres mor eithafol mi nath y ffenestri doddi,” dywedodd Emma.

“Ac mae’r gegin, y stafell fwyta a’r stafell fyw wedi eu dinistrio’n llwyr gan y mwg.”

Cymdogion welodd y mwg du yn dod o’r ffenestri, ac mi fuodd yna ymdrech i gael hyd i’r perchnogion.

Roedd y ddau yn eu gwaith, Euros sy’n yrrwr loriau, ac mae Emma yn rhedeg busnes glanhau.

Mi fydd y teulu yn byw mewn tŷ rhent dros dro, a does 'na ddim disgwyl iddyn nhw symud yn ôl i’w cartref am fisoedd.

Image
Euros ac Emma
Euros Jones ac Emma Vaughan

'Brawychus'

Yn ôl Erina Jones, mam Euros:  “Oedd o’n frawychus, i feddwl be ddigwyddodd mewn cyn lleied o amser. Eiliad mae o’n cymryd i ddamwain mawr ofnadwy ddigwydd. Oedd hi’n ofnadwy yma.

“Maen nhw’n gryf, chwarae teg iddyn nhw. Ond mae o wedi effeithio ar Euros a’r plant. Oedd plant yn ddrwg ofnadwy pan wnaethon nhw weld y lle.

“Fyswn i’n dweud i bobol – troi popeth i ffwrdd, y peiriannau i gyd, cau drysau ym mhob man a gwneud siŵr fod bob man yn saff cyn i chi mynd i’ch gwely. 

Yn ôl ystadegau wedi eu casglu gan y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru, mae 158 o danau ar gyfartaledd yn dechrau mewn peiriannau mawr mewn cartrefi bob blwyddyn, e.e.. oergelloedd neu beiriannau golchi dillad.

Mae 57% o’r rheini yn digwydd mewn peiriannau sychu dillad.

Dywedodd Gwyn Roberts, swyddog o Wasanaeth Tân y Gogledd: “Da ni’n annog i bobol i ddefnyddio’r peiriannau yma yn saff, ac i wneud siŵr eu bod wedi eu plygio i mewn i blwg 13 amp, a bod nhw ddim yn gorlwytho’r peiriant.

“Peidiwch â byth gadael y tŷ gyda pheiriant yn rhedeg na chwaith gadael o pan ‘da chi’n eich gwely yn y nos. “

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.