Newyddion S4C

'Ffeit y ganrif': Mike Tyson i focsio yn erbyn y seren Youtube Jake Paul

07/03/2024
Jake Paul / Mike Tyson (Wotchit)

Fe fydd Mike Tyson yn dychwelyd i’r sgwâr focsio mewn gornest yn erbyn y seren Youtube, Jake Paul.

Fe fydd ‘Iron Mike’ Tyson a Jake Paul yn wynebu ei gilydd mewn gornest yn nhalaith Texas, a fydd yn cael ei ddangos yn fyw ar Netflix.

Bydd Mr Tyson yn troi’n 58 mlwydd oed tair wythnos cyn yr ornest yn erbyn Paul, sydd yn 27 mlwydd oed – dros 30 mlynedd yn ieuengach.

Nid yw’n eglur ar hyn o bryd os fydd yn ornest swyddogol neu yn ornest arddangos.

Mae Paul wedi bod yn paffio’n broffesiynol ers 2020, gan ennill naw gornest, a cholli un hyd yma yn erbyn Tommy Fury fis Chwefror y llynedd.

Daeth gyrfa broffesiynol Mike Tyson i ben yn 2005, ond mae wedi cymryd rhan mewn ffeit arddangos yn ddiweddarach, yn 2020.

Yn ei anterth, roedd Mike Tyson yn bencampwr pwysau trwm unfrydol y byd, ac yn ystod yr 1980au ac 1990au, yn cael ei ystyried fel y bocsiwr peryclaf ar y blaned.

Wrth gyhoeddi’r ornest ar gyfrwng X, dywedodd Paul: “Ffeit fwyaf y 21ain ganrif.

"Mae fy ngolygon ar fod yn bencampwr y byd a nawr mae gen i’r cyfle i brofi fy hun yn erbyn pencampwr y byd pwysau trwm, y dyn mwyaf bygythiol yn y byd a’r bocsiwr fwyaf peryglus mewn hanes. 

"Mae’n amser rhoi Iron Mike i gysgu.”

Llun: Wotchit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.