Newyddion S4C

'Pryderon difrifol' ymysg penaethiaid am werth gwasanaethau gwella ysgolion

07/03/2024
Dosbarth

Mae adolygiad o wasanaethau gwella ysgolion Cymru wedi clywed fod gan benaethiaid ysgolion "bryderon difrifol" am eu gwerth.

Ymysg y feirniadaeth o'r Consortia a Phartneriaethau Rhanbarthol oedd eu bod yn creu gwaith "diangen, yn wrthgynhyrchiol ac yn ychwanegu biwrocratiaeth." 

Nodwyd pryderon am ddiffyg cysondeb yn ansawdd y cymorth gan y gwasanaethau gwella addysg hefyd gan benaethiaid. 

Mae pum corff ar draws y wlad sydd yn cynnig gwasanaethau gwella ysgolion - GwE, Canolbarth y De, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg, Partneriaeth y Canolbarth, a Partneriaeth.

Image
Jeremy Miles
Y Gweinidog Addysg Jeremy Miles

Cafodd tîm o arbenigwyr eu penodi gan y Gweinidog Addysg Jeremy Miles y llynedd i "adolygu rolau a chyfrifoldebau'r partneriaid addysg yng Nghymru".

Roedd eu hymchwil yn cynnwys cynnal gweithdai gyda phenaethiaid ysgolion ymhob awdurdod lleol.

Fe wnaethant glywed gan gyfanswm o 350-650 o arweinwyr ysgolion - sy’n cyfateb i rhwng 25% a 45% o’r arweinwyr ysgolion yng Nghymru. 

Llythyr

Mewn llythyr ar y Gweinidog ddiwedd Ionawr, ar ddiwedd Cam 1 o'r adolygiad, dywedodd Dylan E. Jones o'r tîm adolygu bod yr arolygwyr wedi eu "taro gan gysondeb y negeseuon a glywsom gan arweinwyr ysgolion o bob cwr o Gymru yn y sesiynau wyneb i wyneb ac yn yr ymatebion i’r arolwg. 

"Mae’n glir bod y pandemig wedi cael nifer o effeithiau niweidiol ar ein dysgwyr sydd, yn eu tro, wedi creu nifer o heriau i’r rheini sy’n ceisio darparu’r profiad dysgu gorau posibl iddynt. 

"Dywedodd yr arweinwyr ysgolion eu bod yn teimlo wedi’u llethu gan yr holl newid yn y system ac roeddent yn teimlo bod diffyg eglurder ynghylch y diwygiadau cenedlaethol mewn rhai meysydd allweddol fel y cwricwlwm, cynnydd ac anghenion dysgu ychwanegol."

'Pryderon difrifol'

Fe wnaeth arweinwyr ysgolion gyfleu pryderon "difrifol" am werth ychwanegol y Consortia Rhanbarthol. 

"Roedd llawer o bryder ynghylch y diwylliant o ‘gwneud i’ yn hytrach na ‘gwneud gyda’. Nodwyd y pryderon ynghylch yr amrywiaeth a’r diffyg cysondeb yn ansawdd y cymorth gan y consortia hefyd. 

"Roeddent o’r farn bod llawer o'r ceisiadau gan yr haen ganol yn ddiangen, yn wrthgynhyrchiol ac yn ychwanegu biwrocratiaeth. Ceisiwyd eglurder ynghylch rolau ac effaith pob elfen o fewn yr Haen Ganol."

Ychwanegodd y llythyr bod arweinwyr ysgolion yn teimlo "rhwystredigaethau dwfn" am y broses cyllid grant a'r "fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrthi a’r ansicrwydd y mae’n ei achosi i arweinwyr ysgolion.

"Teimlai’r arweinwyr ysgolion fod ychydig neu ddim cymorth ar gyfer rhai o’r heriau mwyaf y mae ysgolion yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn dilyn y pandemig, fel presenoldeb ac ymddygiad."

Trefniadau gwahanol

Roedd mwyafrif clir o’r awdurdodau lleol o blaid archwilio symud i ffwrdd o’r trefniadau presennol ar gyfer cymorth rhanbarthol, neu eisoes wedi symud i ffwrdd ohonynt, i bartneriaethau rhwng awdurdodau lleol sy’n caniatáu dulliau mwy lleol. 

Er y feirniadaeth, roedd rhai agweddau'n gweithio'n dda hefyd meddai'r llythyr, gan gynnwys cydweithio rhwng ysgolion a gweithio mewn clystyrau "ac mae’r arweinwyr ysgolion yn credu mai hyn ddylai fod y sylfaen ar gyfer y system Gwella Ysgolion yn y dyfodol."

Wrth orffen ei lythyr i'r Gweinidog, dywedodd Dylan E. Jones ei fod yn gobeithio fod Jeremy Miles yn cytuno fod rhan gyntaf yr adolygiad wedi ei ddefnyddio "i feithrin sail dystiolaeth gref ar y system bresennol."

Fe wnaeth gynnig y dylid defnyddio Cam 2 i ymateb i’r safbwyntiau drwy archwilio beth yw’r ffordd orau o gefnogi’r gwaith o wella ysgolion ar dair lefel drwy archwilio:

  • Beth yw’r ffordd orau o gefnogi’r cydweithio rhwng ysgolion ar lefel leol, 
  • sut y gall cydweithio a rhwydweithio rhwng ysgolion barhau i gael ei gefnogi ar draws yr awdurdodau lleol ac yn genedlaethol, 
  • beth yw’r ffordd orau o gefnogi gwelliannau i ysgolion ar lefel genedlaethol?

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â'r pum corff ar draws y wlad sydd yn cynnig gwasanaethau gwella ysgolion am eu hymateb i'r llythyr a'r adroddiad.
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.