Newyddion S4C

Eryri yn cefnogi cynllun i geisio cyfyngu ar y nifer o ail gartrefi

06/03/2024
Beddgelert

Gallai perchnogion tai yn Eryri orfod gwneud cais cynllunio er mwyn cael newid defnydd tŷ i ail gartref neu lety gwyliau o'r flwyddyn nesaf ymlaen.

Mae Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cefnogi'r syniad o fabwysiadu deddf newydd o'r enw Cyfarwyddyd  Erthygl 4 , sydd yn atal pobl rhag troi eu heiddo mewn i ail gartref neu lety wyliau heb ganiatâd gan awdurdod cynllunio.

Mae'r awdurdod yn dweud bod nifer yr ail gartrefi a thai gwyliau yn Eryri yn effeithio ar “argaeledd tai i bobl leol”.

Bydd cyfnod rhybudd o 12 mis yn cychwyn “mor fuan â phosib”, er mwyn dweud wrth drigolion y parc am y newid posib, ac  er mwyn gasglu sylwadau ar gyfer ymgynghoriad.

Wedi’r ymgynghoriad, bydd pleidlais arall. Os bydd aelodau'n  penderfynu o blaid Erthygl 4 unwaith eto, mae’n bosib y bydd y cyfarwyddyd yn  weithredol o Fehefin 2025.

'Pryder'

Dywedodd swyddogion yr awdurdod:  “Mae lletyai gwyliau yn rhan bwysig o’r ‘cynnig gwyliau’ yn Eryri, ac yn cael effaith economaidd bwysig bosibl ar yr ardal.

"Fodd bynnag, mae pryder bod y gyfran o letyai gwyliau yn anghymesur o uchel, ac yn tyfu mewn sawl rhan o'r Parc Cenedlaethol.

“Os yw’r gyfran o letyai gwyliau’n rhy uchel neu’r twf yn rhy gyflym, mae pryderon ynghylch sut mae hyn yn effeithio ar amcanion yr Awdurdod o greu cymunedau cynaliadwy.

“Yn gyffredinol, nid yw'r farchnad dai yng Ngwynedd yn fforddiadwy i gyfran fawr o bobl leol. Er bod y rhesymau am hyn yn niferus ac yn gymhleth ac nid ydynt bob amser yn cael eu deall yn dda.

“Mae'n amhosibl felly i'n hymchwil cyfyngedig ddod i unrhyw gasgliad pendant, ond teimlir y byddai cyfran gymharol uchel a chynyddol o ail gartrefi a gosodiadau gwyliau yn debygol o gael effaith andwyol ar iechyd a fforddiadwyedd cyffredinol y farchnad dai leol.”

'Pwysig iawn'

Dywedodd Cadeirydd yr Awdurdod, Tim Jones “Mae’r cynnig o’n blaenau yn amserol a chynhwysol. Hwn ydi’r ffordd ymlaen, mae’n rhaid i ni wneud o felly dw i o blaid y peth.”

Dywedodd Is-gadeirydd yr Awdurdod, Edgar Wyn Owen: “Mae hwn yn bwysig iawn i’r parc, ac mae’n rhaid i’r parc i gyd fod yn rhan ohono fo. Achos os nad ydi o, da chi’n mynd i gael darnau o’r parc wedyn efo tai haf ynddyn nhw, a’r darnau rheini ‘di lle mae 'na lai o bobl yn byw yna o fewn y parc.

“A Conwy'r un fath – dim Llandudno sy’n mynd i ddiodda ond Llanrwst ac yn y blaen. Mae’n bwysig bod hwn yn mynd cyn gynted a sy'n bosib.”

Yn ystod y cyfnod rhybudd, bydd llythyrau yn cael eu hanfon i'r trigolion yn byw o fewn ei ffiniau, er mwyn hysbysebu ynglŷn â'r newid

Mae bwriad hefyd i gynnal sesiynau fforwm cymunedol gyda chynghorau tref a chymunedol, a chodi ymwybyddiaeth ar gyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn galluogi awdurdod cynllunio lleol i fynnu fod perchnogion eiddo yn derbyn hawl cynllunio cyn newid defnydd eu heiddo yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi pleidleisio o blaid defnyddio’r system, ac yn ystyried sylwadau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus cyn gwneud penderfyniad terfynol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.