Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Dim George North na Nick Tompkins yn nhîm Cymru yn erbyn Ffrainc

06/03/2024
Anthem Cymru / Hen Wlad fy Nhadau

Dyw George North a Nick Tompkins ddim wedi eu cynnwys yn nhîm Cymru ar gyfer y gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc ddydd Sul.

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi gwneud pedwar newid i’r tîm ar gyfer y gêm yn Stadiwm y Principality, o’r pymtheg a wnaeth ddechrau yn erbyn Iwerddon bythefnos yn ôl.

Ymhlith y chwaraewyr i golli allan mae aelod mwyaf profiadol y garfan, George North, sydd â 120 o gapiau, a’i bartner yng nghanol y cae, Nick Tompkins.

Canolwr y Scarlets, Joe Roberts, fydd yn cymryd lle North, gan ennill ei ail gap rhyngwladol, tra bod Owen Watkin o’r Gweilch yn dechrau yn y safle rhif 12.

Mae’r capten Dafydd Jenkins wedi ei enwi ar ochr dywyll y rheng ôl sy’n creu lle i Will Rowlands i ddechrau ei gêm gyntaf o’r bencampwriaeth eleni yn yr ail reng.  Adam Beard yw’r clo arall.

Mae Ryan Elias wedi ei enwi’n fachwr a bydd yn dechrau ei ail gêm o’r ymgyrch.

Ymhlith yr eilyddion, mae’r bachwr Elliot Dee yn debygol o ennill ei 50fed cap ac mae’r mewnwr Gareth Davies wedi ei gynnwys yng ngharfan y gêm unwaith eto.

Dywedodd Warren Gatland: “Mae ambell newid yr wythnos hon gan fod rhai chwaraewyr yn haeddu cael cyfle a munudau ar y maes.

“Does dim amheuaeth y bydd y gêm yr arbennig o gorfforol – yn enwedig felly ymhlith y blaenwyr. Bydd Ffrainc yn bendant yn ceisio dechrau’r gêm ar garlam ac yn hynod galed hefyd. 

“Bydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gorfforol, yn gyflym ac yn ddisgybledig o’r chwiban gyntaf. Unwaith eto ry’n ni’n edrych am berfformiad 80 munud.

“Mae’r garfan yn gyffrous am y ffaith ein bod yn chwarae ein dwy gêm olaf yn Stadiwm Principality o flaen ein cefnogwyr angerddol.” 

Carfan Cymru

15. Cameron Winnett (Caerdydd – 3 cap)
14. Josh Adams (Caerdydd – 57 cap)
13. Joe Roberts (Scarlets – 1 cap)
12. Owen Watkin (Gweilch – 37 cap)
11. Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 17 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 10 cap)
9. Tomos Williams (Caerdydd – 56 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 28 cap)
2. Ryan Elias (Scarlets – 41 cap)
3. Keiron Assiratti (Caerdydd – 5 cap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 31 cap)
5. Adam Beard (Gweilch – 54 cap)
6. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 15 cap) Capten
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 16 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 46 cap)

Eilyddion

16. Elliot Dee (Dreigiau – 49 cap)
17. Corey Domachowski (Caerdydd – 9 cap)
18. Dillon Lewis (Harlequins – 55 cap)
19. Alex Mann (Caerdydd – 3 cap)
20. Mackenzie Martin (Caerdydd – 1 cap)
21. Gareth Davies (Scarlets – 75 cap)
22. Ioan Lloyd (Scarlets – 5 cap)
23. Mason Grady (Caerdydd – 9 cap)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.