Newyddion S4C

Y sylwebydd dartiau Tony Green wedi marw'n 85 oed

05/03/2024
Tony Green

Mae’r sylwebydd dartiau a chyd-gyflwynydd y gyfres Bullseye, Tony Green, wedi marw yn 85 oed.

Bu farw ar ôl “brwydr hir yn erbyn Alzheimer’s”, yn ôl y dyn wnaeth greu Bullseye, Andrew Wood.

Roedd yn sylwebydd gyda'r BBC ym Mhencampwriaethau'r Byd BDO rhwng 1978 a 2016.

Roedd hefyd yn adnabyddus am fod y person oedd yn cadw'r sgôr ac yn gwneud y cyhoeddiadau ar y rhaglen gwis Bullseye ar ITV.

Cafodd ei farwolaeth ei gyhoeddi ar dudalen Facebook y rhaglen ddydd Llun gan Andrew Wood a'i deulu.

"Diolch Tony am yr holl atgofion, yr holl chwerthin (a chredwch chi ni mi oedd yna lawer!) a’r holl amseroedd arbennig yn ffilmio Bullseye gyda’n gilydd.

“Am flynyddoedd gwych oedd y rheini ac fe fuodd hi'n anrhydedd eu rhannu nhw gyda thi.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.