Newyddion S4C

Cofio cyfnod 'bwlio' yng Nghyngor Ynys Môn

Dr Caroline Turner

Mae cyn-swyddog blaenllaw yng Nghyngor sir Ynys Môn wedi bod yn cofio am gyfnod anodd i'r awdurdod lleol yn ystod y 90'au.

Roedd Dr Caroline Turner yn un o'r rhai a siaradodd yn gyhoeddus am broblemau mewnol y cyngor sir, oedd yn cynnwys honiadau o 'lywodraethiant gwael' ac 'awyrgylch o fwlio' yn ystod y cyfnod.

"Doedd penderfyniadau ddim yn cael eu gwneud yn y modd cywir. Roedd y llywodraethant yn wan yna. Mi oedd 'na sicr awyrgylch o fwlio yna,"meddai wrth siarad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.

Dywedodd Dr Turner ei bod wedi ymuno â'r cyngor yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996.

"Nes i ddewis mynd i weithio i Gyngor Ynys Môn achos o'n i'n dod o'r sir ac roedd  'na bobl dda iawn wedi cael eu penodi fel rheolwyr a chynghorwyr da yna hefyd.

"Roedd 'na hanes i Gyngor Ynys Môn ond o'n i'n meddwl, wel, mi fydd y bobl yma yn newid natur y lle, ac mi fydd o'n le saff i weithio. Ond dim dyna oedd fy mhrofiad personol i, nag ambell un arall chwaith.

"O'n i'n teimlo fod penderfyniadau ar adegau ddim yn cael eu gwneud yn y modd priodol."

Newid y sefyllfa

Roedd Dr Turner, sy'n wreiddiol o ardal Caergeiliog ar Ynys Môn, yn teimlo bod yn rhaid iddi wneud rhywbeth i geisio newid y sefyllfa.

"O'n i'n teimlo pan nes i sôn am fy mhryderon, bod nhw ddim wedi gwrando arnaf fi o ddifrif, felly mi wnes i adael.

"Mi wnes i adael, ac fe ddaeth yr heddlu i'm gweld i a holi beth oedd yn digwydd. Fuodd na ddim achosion cyfreithiol yn erbyn y cyngor, na'r un o'r swyddogion na chynghorwyr ar y pryd, ond mi oedden nhw'n bryderus ynglŷn â rhai o'r pethau oedden nhw yn clywed amdanyn nhw."

Image
Cyngor Mon

Yn dilyn y cyfnod anodd yma, fe wnaeth Dr Turner gyfrannu i raglen arbennig o Wales This Week ar ITV, oedd wedi bod yn ymchwilio'n eang i'r cam-weinyddu yng Nghyngor Môn.

Hyd heddiw, mae'n teimlo ei bod wedi gwneud y peth iawn, er yr aberth bersonol, ac effaith ei phenderfyniad i siarad yn gyhoeddus ar ei bywyd teuluol.

"Yn ariannol, ac o ran fy ngyrfa, fe aeth popeth yn ôl ryw bum mlynedd mae'n debyg, a gorfod ail ddechrau yn Brussels."

"Os dydy pobl ddim yn sefyll fyny a siarad allan pan dydy pethau ddim yn iawn, maen nhw'n mynd i gario ymlaen fel'na, a doeddwn i ddim isho i'r hyn ddigwyddodd i mi ddigwydd i bobl eraill."

Yn ôl i Fôn

Yn ddiweddarach yn ei gyrfa, fe ddychwelodd Dr Turner i Gyngor Ynys Môn wedi cyfnod yn gweithio ym Mrwsel ac yn y Cynulliad yng Nghaerdydd fel gwas sifil, i fod yn Brif Weithredwr Cynorthwyol ar y cyngor sir.

"Roedd y profiad yn well o lawer, cynghorwyr gwahanol iawn erbyn hynny, pobl arbennig o dda ar draws yr holl bleidiau, a rheolwyr da iawn hefyd.

"Fues i'n ffodus iawn i weithio o dan Dr Gwyn Jones, oedd yn Brif Weithredwr gweddol newydd yno ar y pryd, a thîm da o'i gwmpas o, tîm da o uwch-swyddogion a thîm da iawn o swyddogion gweithredol ar draws yr holl wasanaethau.

"Roedd yn brentisiaeth dda iawn i mi i ddod 'nôl i lywodraeth leol ac yn brofiad hapus o weithio efo'r swyddogion a'r cabinet."

Yn fwy diweddar roedd Dr Turner yn Brif Weithredwr ar Gyngor Sir Powys, ond bu'n rhaid iddi ymddeol oherwydd effeithiau Covid-hir ar ei hiechyd. Erbyn hyn mae wedi ei phenodi i fwrdd reoli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yn ymgyrchydd brwd dros ail-ymuno â'r Undeb Ewropeaidd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.