Newyddion S4C

Goleuadau'r gogledd i'w gweld yng Nghymru nos Sul

04/03/2024
goleuadau y gogledd

Roedd yr awyr mewn sawl man yng Nghymru yn llachar yn sgil goleuadau'r gogledd, neu'r aurora borealis, nos Sul. 

Mae'r goleuadau i'w gweld oherwydd golau naturiol gan ronynnau o'r haul yn gweithio gyda'r nwyon yn yr atmosffer.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod goleuadau'r gogledd i'w gweld fel arfer yng ngogledd Cymru, gogledd Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae lliwiau coch a gwyrdd fel arfer yn dynodi ocsigen, tra bod pinc a choch yn arwyddion o nitrogen, ac mae glas a phorffor yn ganlyniad hydrogen a heliwm. 

Rhwng diwedd Medi a chanol Mawrth ydi'r cyfnod gorau i weld y goleuadau.

Roedd y goleuadau i'w gweld mewn nifer o lefydd yng Nghymru nos Sul, gan gynnwys Penmaenmawr yn Sir Conwy, Bannau Brycheiniog a Phorthdinllaen ym Mhen Llŷn.

Yr amser gorau i weld y goleuaduau ydi yn ystod oriau tywyllaf y nos, sef fel arfer rhwng 23:00 a 00:00, ond mae hefyd yn bosib eu gweld rhwng 21:00 a 02:00. 

Llun: Simon Galston / X

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.