Newyddion S4C

Annog merched ifanc a allai wedi dioddef camdriniaeth rhyw i siarad

22/06/2021
Heddlu Gogledd Cymru

Mae merched ifanc a allai fod wedi dioddef camdriniaeth rhyw yn cael eu hannog i siarad ar ôl i athro dawns yn Wrecsam gael ei garcharu. 

Cafodd Robert Louw, 27 o Falpas, Caer, ei garcharu am 42 mis yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener ar ôl pledio yn euog i bedwar cyhuddiad o weithgaredd rhyw gyda phlentyn.

Bydd rhaid i Louw, oedd yn dysgu gwersi dawns preifat, gofrestru fel troseddwr rhyw am gyfnod amhenodol. Mae hefyd wedi ei wahardd rhag gweithio gyda phlant ac oedolion bregus am weddill ei oes. 

Mae gorchymyn atal niwed rhyw wedi cael ei gyhoeddi yn ei erbyn am gyfnod amhenodol.

Dywedodd Ditectif Arolygydd Emma Gardner: "Rwy’n croesawu’r ddedfryd a basiwyd i Robert Louw ddydd Gwener, sy’n anfon neges glir ein bod yn cymryd pob adroddiad o gam-drin rhyw o ddifrif.

“Byddwn yn annog unrhyw un a allai fod wedi dioddef oherwydd Robert Louw, nad ydynt eisoes wedi adrodd y digwyddiad i’r heddlu, i gysylltu â ni trwy e-bost yn publicprotectionflintshireandwrexham@nthwales.pnn.police.uk."

Llun: Heddlu Gogledd Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.