Oriel luniau: Prifysgol Aberystwyth yn trechu Bangor yn Eisteddfod Ryng-golegol 2024
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dod â rhediad buddugoliaethau Prifysgol Bangor i ben drwy ennill Eisteddfod Ryng-golegol 2024.
Roedd y coleg ar y bryn wedi ennill wyth Eisteddfod yn olynol cyn cael eu trechu eleni gan y coleg ger y lli.
Prifysgol Abertawe oedd wedi cynnal yr Eisteddfod eleni, a hynny am y tro cyntaf ers 2019, gyda dros 500 o fyfyrwyr yn cystadlu..
Nanw Maelor a Rebecca Rees o Brifysgol Aberystwyth enillodd y Gadair a’r Goron eleni.
Fe ddechreuodd y cystadlu yn Neuadd Fawr y Brifysgol ar Gampws y Bae fore Sadwrn, gyda’r cyflwynydd a chyn-fyfyrwraig Abertawe Siân Thomas yn Feistres y Ddefod.
Y comedïwr Noel James o Gwmtawe, a chyn-Swyddog Materion y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Tom Kemp, oedd yn llywio’r diwrnod ac roedd yr aelod senedd Sioned Williams ymhlith y beirniaid.
Dywedodd Elain Gwynedd, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, eu bod nhw wedi gwirioni ar y fuddugoliaeth.
"Mae hi wir yn fraint i ni’n Aberystwyth gael ein coroni fel pencampwyr yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni, a hithau’n flwyddyn arbennig wrth inni ddathlu hanner can mlynedd ers sefydlu UMCA," meddai.
"Dw i mor falch o’r holl aelodau am eu hymroddiad a’u hangerdd dros ddod â’r darian yn ôl i’r coleg ger y lli.
"Mi fuaswn i hefyd yn hoffi diolch i Arweinyddion a Chyfeilyddion Aelwyd Pantycelyn Dafydd, Mari, Fflur, Efa, Celt a Gwenno am eu holl waith caled wrth baratoi tuag at yr Eisteddfod.
"Diolch o galon hefyd i Brifysgol Abertawe am drefnu’r Eisteddfod ac am y croeso cynnes, yn wir bydd hi’n un sy’n aros yn y cof am byth.
"Mae UMCA yn edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod Ryng-gol i Aberystwyth yn 2025, gan obeithio y byddwn yn cipio’r wobr unwaith yn rhagor!"
Y tabl pwyntiau terfynol:
- Aberystwyth 651
- Bangor 634
- Abertawe 200
- Caerdydd 142
- Manceinion 20
Enillydd Cadair Rhyng-gol
Nanw Maelor, Prifysgol Aberystwyth
Enillydd Coron Rhyng-gol
Rebecca Rees, Prifysgol Aberystwyth
Enillwyr Twrnament Chwaraeon
Prifysgol Abertawe
Enillydd Tlws y Cerddor
Celt John, Prifysgol Bangor
Enillydd Medal y Dysgwyr
Ieuan Jacka, Prifysgol Abertawe
Enillydd y Fedal Gelf
Nia Williams, Prifysgol Aberystwyth
Enillydd y Fedal Wyddoniaeth
Fflur Edwards, Prifysgol Aberystwyth
Enillydd y Fedal Ddrama
Kirsty Lewis, Prifysgol Bangor
Côr SATB
Prifysgol Bangor
Lluniau gan Brifysgol Abertawe.
