Rhyddhau dyn ar fechnïaeth mewn ymchwiliad i farwolaeth yn Llanelwy

North Wales Live

Mae dyn 57 oed, a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 58 oed yn Llanelwy, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth. 

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r digwyddiad yn dilyn adroddiadau o ymosodiad y tu allan i eiddo yn Llys Clwyd, toc cyn 17:00 brynhawn ddydd Mercher, 16 Mehefin.

Mae'r ymchwiliad yn parhau, gyda'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 21000421960.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: Google Maps